MAE GWASTRAFFU BWYD YN BWYDO NEWID HINSAWDD.
Gredwch chi hynny? Wel, pe bydden ni’n rhoi’r gorau i daflu’r 714,000 o dunelli o datws rydyn ni’n eu gwastraffu bob blwyddyn yn ein cartrefi, buasai’n gwneud yr un faint o les i’r amgylchedd â thynnu 326,000 o dunelli o CO2e o’r atmosffer! Dyna pam rydyn ni’n herio pawb i ddeall gwir werth bwyd a gwastraffu cyn lleied â phosibl. Mae’n bryd inni weithredu ar hyn.
Mae’r bwyd da rydyn ni’n ei daflu yn cael effaith ar ein hamgylchedd ac mae’n cyfrannu at newid hinsawdd gan ein bod yn gwastraffu nid yn unig y bwyd ei hun, ond yr adnoddau gwerthfawr sydd wedi’u defnyddio i wneud y bwyd – y tir, y gwrteithiau a’r dŵr a ddefnyddiwyd i’w dyfu, a’r nwyon tŷ gwydr a grëwyd wrth ei gynhyrchu a’i gludo.
Pe bai gwastraff bwyd yn wlad, buasai ganddi’r drydedd ôl-troed carbon fwyaf yn y byd ar ôl yr UDA a Tsieina.
Pe bydden ni oll yn rhoi’r gorau i wastraffu bara gartref yn y Deyrnas Unedig am flwyddyn, gallai wneud yr un faint o wahaniaeth i allyriadau nwyon tŷ gwydr â phlannu 5.3 miliwn o goed.
Mae bwyd wedi’i wastraffu’n cyfrannu mwy at allyriadau nwyon tŷ gwydr yn fyd-eang na’r holl deithiau awyren masnachol a wnawn bob blwyddyn.
BETH ALLWCH CHI EI WNEUD I HELPU?
Mae’r cynllunydd dognau dyddiol hwn yn rhoi canllaw ichi sy’n dangos faint o fwyd rydych ei angen ar gyfer pob person, fesul pryd bwyd. Mae’n syml i’w ddefnyddio gan ein bod wedi cyfrifo meintiau dognau cyffredin ichi. Cyn mynd i siopa, cynlluniwch eich dognau fel mai dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch y byddwch yn ei brynu. Gwnewch restr a thynnwch lun o’r silffoedd yn eich cegin a chyfeirio ato pan fyddwch chi’n siopa i’ch atgoffa o’r hyn sydd gennych chi’n barod.
Trowch eich oergell i lawr i 5°C neu lai i gadw’ch bwyd yn fwy ffres yn hirach.
Labeli dyddiadau – beth maen nhw’n ei feddwl? Dyma ganllaw i’ch helpu i ddeall y gwahaniaeth rhwng ‘defnyddio erbyn’ ac ‘ar ei orau cyn’.
CYFLAWNi – defnyddio pob darn bwytadwy o’ch bwydydd yn cynnwys crwyn tatws a choesynnau brocoli.
Mae defnyddio bwydydd dros ben yn ffordd hawdd o frwydro newid hinsawdd a mwynhau pryd blasus o fwyd.
Cael trefn ar eich storfa – cadwch eich bwyd ar ei orau am gyfnod hirach drwy ei storio’n gywir.
Mae rhewi’r bwyd nad ydych chi wedi cael cyfle i’w fwyta yn rhewi amser! Mae’n rhoi mwy o amser ichi fwyta’r bwyd y gwnaethoch ei brynu. Mae’n ddiogel ichi rewi bwyd hyd at ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’. Dysgwch pa fwydydd y gallwch ac na allwch eu rhewi a’r ffordd gywir o’u dadrewi. Mae rhewi’r hyn sydd gennych, a phrynu bwydydd wedi rhewi yn eich helpu i ddefnyddio popeth heb iddo fynd heibio’i ddyddiad.