Pedwar syniad ar gyfer siocled dros ben
Siocled dros ben - beth yn y byd yw hynny? Ond, ydy - mae’n bodoli. Yn wir, bob blwyddyn yn y DU, mae 18,000 tunnell o siocled yn cael ei daflu i’r bin! Weithiau, gallwn gael gormod o rywbeth da, ac mae’n haws osgoi temtasiwn a dechrau o’r newydd. Neu efallai nad oes gan eich plant ddigon o hunanddisgyblaeth. Felly dyma rai syniadau o’r hyn y gallwch ei wneud gyda’ch siocled dros ben.
Cacennau creision yd siocled
Dyma syniad sydd byth yn mynd yn hen! Mae’r cacennau grawnfwyd hyn yn hawdd i’w gwneud ac yn boblogaidd iawn gyda phlant o bob oed. Gallwch ddefnyddio grawnfwydydd plaen gwahanol i’w gwneud, neu osod wyau bach ar eu pennau i wneud nythod.
Lolipops banana a siocled wedi rhewi
Os oes angen seibiant wrth siocled arnoch, neu os oes gennych fananas sy’n dechrau duo, toddwch siocled, rhowch eich bananas (wedi’u plicio) ar hambwrdd gwrthsaim a’u gorchuddio â’r siocled. Yna, gwthiwch ffon lolipop i gnawd y bananas a’u rhoi nhw yn y rhewgell. Mae bananas wedi’u gorchuddio â siocled yn ddanteithfwyd blasus sy’n gallu cael eu cadw tan yr haf.
Brownis marmor caws hufen
Siocled gludiog, coffi, caws hufennog - oes angen dweud mwy? Mae’r rysáit hon yn berffaith ar gyfer y rheiny sydd eisiau ychydig o foethusrwydd.
Sleisys cacen bisged siocled, cnau Ffrengig a llus
Mae’r rhain yn ddanteithion go iawn, a gallwch ddefnyddio darnau dros ben y bisgedi sydd ar waelod eich tun i’w gwneud, neu hyd yn oed fisgedi sy’n dechrau troi. Dyma rysáit ardderchog os oes gennych lawer o siocled dros ben.
Pedwar syniad ar gyfer byns y Grog dros ben
Rydym yn greaduriaid deddfol iawn, gyda nifer ohonom yn prynu bara, byns a rholiau allan o arfer. Adeg y Pasg, mae byns y Grog ym mhob man ac mae’n anodd eu gwrthod! Yn wir, yn y DU, rydym yn taflu i ffwrdd oddeutu 450,000 tunnell o eitemau wedi’u pobi bob blwyddyn, ar gost gasgliadol o £860 miliwn. Mae byns y Grog yn fyrbryd cysurus tu hwnt - cynnes, wedi eu tostio ac wedi’u gorchuddio â menyn toddedig, ond maen nhw’n gallu bod yn llawer mwy na hynny hyd yn oed. Dyma ein cyngor gorau...
Pwdin bara a menyn siocled
Clasur. Wedi’i gwneud o ddau gynhwysyn hanfodol y Pasg - siocled a byns y Grog. Defnyddiwch ein rysáit gan ddefnyddio byns y Grog yn lle bara. Ac ar ben hynny, gallwch ei rewi!
Topins creisionllyd
Pan mae bara yn dechrau troi, does dim rhaid i chi ei daflu yn y bin. Mae yna nifer o ffyrdd o atgyfodi bara, gan gynnwys ei droi’n friwsion bara ar gyfer topins creisionllyd. Gallwch wneud yr un peth gyda byns y Grog - ceisiwch y rysáit hon gan ddefnyddio byns y Grog yn lle toesenni.
Rhewch e!
Gallwch rewi’r rhan fwyaf o gynnyrch wedi pobi – gan gynnwys bara, cacennau a byns y Grog. Gallwch eu tynnu o’r rhewgell a’u tostio nhw ar unwaith, ac ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn sylwi.
Tost Ffrengig â mêl
Dyma ddanteithion brecwast o’r radd flaenaf - i’w gweini ag ychydig o iogwrt Groegaidd. Am ddechrau blasus i’r dydd.
Pum syniad ar gyfer cig oen dros ben
Yn aml, mae’r Pasg yn amser i deuluoedd ddod ynghyd – gyda nifer yn dewis gweini cig oen traddodiadol wedi’i rostio, gyda’r trimins i gyd wrth gwrs. Er hynny, mae oddeutu 7,000 tunnell o fwyd y Pasg yn cael ei daflu i’r bin, sydd gyfwerth â £78 miliwn. Derbyniwn nad yw cig oen yn ddewis amlwg ar gyfer bwyd dros ben y diwrnod wedyn, felly dyma rai syniadau ar sut y gallwch chi ailddyfeisio’ch cig oen...
Rogan Josh cig oen dros ben
Byddwch yn gwybod eich bod wedi gwneud y dewis cywir pan fyddwch yn arogli’r cyrri Rogan Josh yn coginio. Os oes gennych gig oen dros ben, winwns, tomatos a rhai cynhwysion hanfodol o’r cwpwrdd bwyd, byddwch yn siŵr o fwynhau’r pryd bwyd hwn.
Pastai cig oen dros ben
Os nad oes gennych lawer o gig oen dros ben, efallai mai pastai cig oen yw’r ateb? Dyma ginio blasus a boddhaol sydd hefyd yn ffordd o ddefnyddio’ch llysiau dros ben.
Bara pitta cig oen griliedig
Ffres ac afieithus – trowch eich cig oen dros ben yn rhywbeth newydd sbon, gydag ychydig bach o salad, bara pita a pherlysiau.
Biryani cig oen dros ben
Teimlo’n ddiog? Eisiau bwyd? Cyn estyn am y ffôn i archebu cludfwyd – cofiwch mai pum munud yn unig sydd angen arnoch i baratoi’r pryd bwyd hwn, ynghyd â 15 munud i’w goginio. Ewch amdani!
Bara fflat cig oen crisb Morocaidd
Yr hyn sy’n gwneud y pryd bwyd hwn mor arbennig yw’r perlysiau a’r sbeisys sydd eisoes gennych yn y cwpwrdd. Am swper cyflym, hawdd a boddhaol, rhaid i chi geisio hwn.