LFHW 5 ffordd o ddefnyddio bara dros ben | Love Food Hate Waste Wales

5 ffordd o ddefnyddio bara dros ben

Hoffi Bwyd Casau Gastraff
Article Type
What To Do
Article Subcategory

1. Syniad ffres

Rhowch hen fara yn y microdon am 10 eiliad i’w adfywio.

2. Bara sych – dim heddiw!

Ysgeintiwch ychydig o ddŵr ar eich hen fagel neu fara pitta, a’i roi yn y ffwrn ar 180°C am ychydig funudau, a bydd fel newydd unwaith eto.

3. Paratoi pecyn cinio diffwdan

Paratowch lond torth o frechdanau i’r teulu ar unwaith, a’u rhewi fesul brechdan mewn bagiau rhewgell neu dybiau. Wir ichi, mae’n arbed llawer o amser! Gellir rhewi’r rhan fwyaf o gynhwysion brechdan, heblaw salad a thomatos.

4. Mae briwsion yn benigamp

Trowch hen fara a chrystiau dros ben yn friwsion bara mewn prosesydd bwyd. Unrhyw fath o fara! Mae bagels, rholiau, neu fara pitta yn gweithio’n dda, yn ogystal â phennau torth gyffredin.

Gallwch ddefnyddio briwsion bara i wneud topin crymbl, stwffin, tewychu sawsiau, ac i orchuddio cig, pysgod neu lysiau trwy gymysgu’r briwsion gydag wy. Gallwch rewi briwsion bara i’w defnyddio’n syth o’r rhewgell rywdro eto.

5. Pizza yw’r pryd i chi

Pizza – y pryd delfrydol!

Gallwch wneud pizza gyda bagét, ciabatta, bara pitta, neu dost cyffredin... byddwch yn greadigol! Tafellwch y bara a thaenu pesto, tomato tin neu biwrî tomato dros ben arno, cyn ysgeintio caws wedi’i gratio ac unrhyw dopin sy’n cymryd eich ffansi o’r oergell neu’r rhewgell. Rhowch yn y ffwrn am 10 munud neu o dan y gril nes bydd wedi coginio drwyddo.

Beth arall allaf ei wneud?

Prynwch ddim ond yr hyn a fwytwch, storiwch eich bara yn y ffordd orau bosibl i’w gadw’n fwy ffres yn hirach, a mwynhewch bob tafell. Dyma fwy o ysbrydoliaeth i’ch helpu.

Cymraeg