LFHW 6 ffordd o ddefnyddio cyw iâr dros ben | Love Food Hate Waste Wales

6 ffordd o ddefnyddio cyw iâr dros ben

Love Food Hate Waste
Article Type
What To Do
Article Subcategory

Mae’r cyngor hwn yn cyfrif ar gyfer twrci neu gig dofednod eraill, yn ogystal â chyw iâr.

 

1. Coginio’r meintiau cywir

Un o’r prif resymau fod cyw iâr, twrci ac ati yn mynd i’r bin yn y Deyrnas Unedig yw ein bod wedi paratoi, coginio neu weini gormod ohono. Prynu’r symiau cywir o gyw iâr a defnyddio’r cwbl yw un o’r ffyrdd gorau i atal gwastraff ac arbed arian i chi.

Gallwch fwrw ati’n syth bin. Nodwch y nifer o bobl rydych chi’n coginio ar eu cyfer yn ein Cynllunydd Dognau ac fe gewch wybod faint sydd ei angen arnoch. Hawdd!

2. Tro-ffrio di-ffwdan

Torrwch frest cyw iâr yn stribedi tenau, gosodwch nhw ar wahân ar hambwrdd a’i roi yn y rhewgell. Wedi iddynt rewi, paciwch y stribedi mewn bagiau – mae eu rhewi ar hambwrdd gyntaf yn golygu na fyddant yn glynu at ei gilydd ac maen nhw’n haws i’w defnyddio rywdro eto.

Gallwch wneud pryd sydyn ganol wythnos trwy dynnu’r nifer o stribedi cyw iâr sydd eu hangen arnoch o’r rhewgell a’u hychwanegu i bryd tro-ffrio yn syth o’r rhewgell.

3. Gwnewch bate crand (a syml!)

Os oes gennych gyw iâr (neu dwrci neu ham) dros ben, rhowch wedd newydd iddo fel Pate Potyn blasus. Cymysgwch y cig mewn prosesydd bwyd gyda llwyaid dda o fenyn meddal, a sesnwch â halen, pupur a sudd lemwn. Dylai’r cymysgedd fod yn eithaf gwlyb a llyfn. Llwywch y cwbl i mewn i bowlen. Rhowch yn yr oergell i galedu a’i fwynhau ar fara crimp neu dost.

4. Stoc i’w gadw

Ar ôl defnyddio holl gig eich cyw iâr wedi’i rostio, gallwch ferwi’r carcas neu’r esgyrn am gwpl o oriau mewn dau neu dri pheint o ddŵr, gydag unrhyw lysiau dros ben (moron, winwns, seleri...) a pherlysiau (mae persli a dail llawryf yn wych, ond gallwch ddefnyddio beth bynnag sydd yn eich cwpwrdd).

Dyna chi: stoc cyw iâr! Mae’n gwneud sylfaen da i gawl, lobsgóws neu risoto (manylion pellach yn nes ymlaen). Mesurwch y stoc i ddognau un peint a’i rewi i’w ddefnyddio pan fyddwch ei angen.

5. Risoto sawrus

Ar ôl rhostio cyw iâr, gallwch gadw’r saim i’w ddefnyddio mewn risoto. Arllwyswch y saim o’r tun pobi i mewn i dybiau bach a’u gadael i oeri er mwyn i’r braster godi i’r wyneb, wedyn eu gorchuddio a’u rhewi. Pan fyddwch yn barod i wneud eich risoto, rhowch y twbyn yn y microdon am 30 eiliad ac mae’n hawdd codi’r haenen o fraster allan i’w ddefnyddio yn lle olew neu fenyn.

6. Cael blas ar fwyd dros ben

Mae cyfoeth o rysetiau ar gael ar gyfer cyw iâr dros ben, ac felly does dim esgus i’w daflu – gallai wneud pryd blasus arall i chi. Dyma rai o’n ffefrynnau – dyma ysbrydoliaeth i chi fod yn greadigol, ewch ati i goginio!

Beth arall allaf ei wneud?

Ceisiwch brynu dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch, ei storio’n iawn, a’i goginio. Dyna’r cwbl sydd angen i chi ei wneud. Dysgwch ragor:

Cymraeg