LFHW 8 ffordd o wneud y gorau o’ch tatws | Love Food Hate Waste Wales

8 ffordd o wneud y gorau o’ch tatws

Article Type
What To Do
Article Subcategory

1. Dognau doeth

Mae prynu’r nifer iawn o datws i’ch teulu a choginio’r meintiau cywir yn golygu llai o ffwdan yn y gegin a llai o wastraff.

Mae ein Cynllunydd Dognau yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn eich helpu i gyfrifo faint o datws i’w prynu ar gyfer y nifer o bobl rydych yn coginio ar eu cyfer.

Dyna ni hawdd!

2. Tatws yn troi’n wyrdd neu’n egino? Maen nhw’n dda i’w bwyta o hyd

Os yw eich tatws yn magu darnau gwyrdd neu’n egino, peidiwch â phoeni, torrwch y darnau hynny i ffwrdd a bydd y gweddill yn iawn i’w fwyta.

Mae taten grychlyd wedi colli llawer o’i maeth, ond mae’n ddiogel i’w bwyta.

3. Crwyn tatws – bwyd blasus

Wir ichi. Ceisiwch weld y tu hwnt i olwg diflas y crwyn: maen nhw’n gwneud creision ardderchog.

Ysgeintiwch halen, pupur, tshili neu beth bynnag sydd at eich dant ar eich crwyn tatws, a’u rhoi yn y ffwrn nes maen nhw’n euraidd ac yn grimp.

4. Stwnsh!

Os oes gennych chi datws yn llechu yng nghefn y cwpwrdd, berwch nhw a'u stwnshio. Rhewch nhw fesul dogn mewn bagiau rhewgell neu dybiau – a’r tro nesaf y byddwch chi ar frys, bydd gennych datws stwnsh yn barod i’w defnyddio.

Ychwanegwch sbrowts neu lysiau gwyrdd eraill sydd dros ben o’ch cinio Sul at eich tatws stwnsh, a’i ffrio i gyd gyda’i gilydd mewn ychydig o fenyn. Mmm, blasus.

Gallwch hyd yn oed wneud ‘mash browns’ i frecwast drannoeth – cadwch unrhyw datws stwnsh dros ben mewn twbyn yn yr oergell, eu gwasgu yn dalpiau bach a’u ffrio.

5. Tatws rhost perffaith

#Uchelgais.

Gallwch ledferwi’ch eich tatws a’u rhewi ar gyfer rywdro eto. Gallwch eu rhostio’n syth o’r rhewgell ac maen nhw’n siŵr o fod yn grimp, yn euraidd ac yn flasus.

Neu, defnyddiwch y rhewgell i baratoi o flaen llaw ar gyfer eich cinio Sul. Lledferwch a rhostiwch eich tatws yn y modd arferol, gadewch iddyn nhw oeri, cyn eu rhoi yn y rhewgell. Gallwch eu coginio’n syth o’r rhewgell ar y diwrnod, gan arbed ar amser paratoi.

6. Salad tatws o safon

Cymysgwch datws berw dros ben gyda mayonnaise a winwns wedi’u torri’n fân i wneud cinio blasus, neu fel saig ar y naill ochr.

7. Tewychu gyda thatws

Os oes gennych datws wedi’u coginio dros ben, gallwch eu defnyddio i dewychu cawl, i roi hwb i’ch omlet, neu hyd yn oed eu hychwanegu at gaserol neu gyri ynghyd â llysiau eraill sydd dros ben... mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd.

8. CYHOEDDIAD GWASANAETH CYHOEDDUS: Gallwch rewi sglodion dros ben o’r siop sglodion

Rydym wedi cadw’r cyngor gorau un at y diwedd.

Os cawsoch chi ormod o sglodion gan y siop sglodion, rhowch nhw yn y rhewgell a gallwch eu haildwymo yn y ffwrn rywdro eto i wneud sglodion crimp blasus. Rhowch gynnig arni!

Beth arall allaf ei wneud?

Prynwch ddim ond y tatws a fwytewch, storiwch nhw yn y ffordd orau bosibl (cofiwch: mae tatws ffres yn hoffi lle oer, tywyll, awyrog – ond nid yr oergell) a bydd eich tatws yn cadw’n well.

Mwy o syniadau ar gyfer trysori tatws:

Cymraeg