Mae’r dolenni allanol canlynol yn arwain at wefannau uniaith Saesneg.
KFC
Mae eich hoff fwyty cyw iâr wedi newid eu sglodion i gadw’r crwyn arnynt. Mae’r profion blas wedi profi bod eu cwsmeriaid yn ffafrio hynny. Pwy a feddyliai y gallai’r crwyn roi gwell blas, A helpu i achub y blaned! Dyna beth yw cyflawni.
Lean Student Chef
Mae rysáit penfras a sglodion di-wastraff Rob yn flasus dros ben – mae hyd yn oed yn defnyddio crystiau torth i wneud y briwsion bara, sglodion gyda’r crwyn arnynt (mae’r rheiny bob amser yn flasus!), a physgodyn o’r rhewgell. Y bonws ychwanegol gyda’r rysáit hon yw mai dim ond £1.20 fesul dogn mae’n ei gostio! Mae cyflawni yn fwy fforddiadwy nag erioed.
Original Flava
Yn eu geiriau nhw, 'Bring da flava to your kitchen!' Mae’r cawl Ital cynhesol hwn, wedi’i ysbrydoli gan flasau Jamaicaidd, yn defnyddio llu o lysiau maethlon cyflawn o’r siop groser leol. Blasus, cyflym ac yn well i’r amgylchedd. Be gewch chi’n well?
Mae’r fideo isod ar gael yn Saesneg yn unig.
Sea Chips
Sglodion pysgod? Mae bwyta croen unrhyw bysgodyn wedi’i goginio yn ddigon i godi dadl danbaid ymysg unrhyw grŵp o ffrindiau, ond nod Sea Chips yw gwneud hynny’n hen hanes, gyda’u creision croen samwn. Ewch i weld drosoch eich hunan.
Tesco
Mae’r archfarchnad anferthol Tesco wedi creu rhestr ysbrydoledig o ddeng rysáit sy’n defnyddio bob tamaid, o’r gwreiddyn i’r pen, draw ar eu gwefan Real Food, sy’n ei gwneud yn hawdd i chi gymryd rhan a chyflawni eich siopa bwyd wythnosol.
Waitrose
Ydych chi erioed wedi meddwl cael blas ar ddail eich sbrowts? Fe wnaethon ni weld topiau sbrowts yn y siop yn ddiweddar – defnyddiwch y llysiau gwyrdd hynod hyn mewn unrhyw rysáit yn lle bresych, gallwch eu cymysgu yn eich tatws stwnsh i wneud mwtrin, neu eu ffrio gyda bacwn a chnau castan.
Dewch inni weld beth y gallwch ei wneud
Mae mwy a mwy o bobl yn cyflawni – ymunwch â nhw i chwarae eich rhan er mwyn y blaned. Bwyta’r cyfan. Dyna yw cyflawni. Ydych chi’n arwr cyflawni? Allwch chi hepgor y pliciwr, bwyta’ch crystiau a llowcio’r coesynnau? Os felly, rhannwch eich rysetiau, cynghorion, haciau, syniadau a lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #Cyflawni. Dewch inni weld beth y gallwch ei wneud!