Efallai eich bod chi’n gwybod mwy na’r disgwyl! Ond nid yw bod yn sicr am iechyd eich plentyn yn rhywbeth sy’n dod yn hawdd i bawb, yn enwedig rheini newydd, nac yn rhywbeth y dylech ddyfalu yn ei gylch.
Mae’r Cynlluniwr Dognau Bob Dydd yn helpu i gael gwared ar ddyfalu a bydd yn darparu tri dewis i chi o ran dognau plant – plant bach 1-2 oed, plant 4-11 oed, a phlant 11-18 oed. Ond bydd angen i chi ddefnyddio eich barn i sicrhau eich bod chi’n gweini’r dognau cywir ar gyfer eich plant, gan fod y meintiau dognau ar gyfer plant ‘maint cyfartalog’.
Trwy ddysgu mwy am fwyta’n iach i blant a gwneud y cyfan y gallwch chi i weini dognau maint cywir, o’r bwyd cywir, bob amser bwyd, byddwch yn cymryd cam enfawr ymlaen o ran gofalu am les cyffredinol eich plant. Bydd y dull hwn, yn ogystal ag annog eich plant i fod yn fwy egnïol bob dydd, hefyd yn helpu i lywio eich plant i ffwrdd o fod yn un o’r ystadegau sy’n cyfrannu at lefelau gordewdra uchel ymhlith plant yn y DU - neu bydd yn eich helpu chi i ddechrau mynd i’r afael â’r broblem os yw unrhyw un o’ch plant eisoes yn ordrwm. Mae bron traean o blant rhwng 2 a 15 oed yn ordrwm neu’n ordew (Ffynhonnell: gov.uk).
Nid oes rhaid i wneud pethau’n gywir fod yn anodd. Roeddem ni’n hoffi’r ffordd yr oedd y rhaglen Newid am Oes yn trafod prydau plentyn (‘Me-sized’).
Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Lloegr, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, Safonau Bwyd yr Alban, a’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Ngogledd Iwerddon.
Cyn i chi wneud unrhyw newidiadau mawr, rhaid i chi ymgynghori â gweithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig e.e. meddygon teulu neu nyrsys practis, yn enwedig os oes gan eich plentyn unrhyw broblemau iechyd presennol neu os yw’n ordrwm.
Mae newidiadau syml, fel gweini’r dognau cywir, o’r bwyd cywir, bob dydd, yn cynnig buddion eraill hefyd, fel helpu eich plentyn i dyfu a datblygu, cael mwy o egni trwy gydol y dydd, a’r gallu i ganolbwyntio’n well yn yr ysgol.
Mae ffynonellau gwybodaeth amrywiol ar gael y gallwch eu darllen:
5532 a-day Perfect portions for toddler tums
Canllaw Bwyta’n Dda [inc welsh ‘eatwell guide’ image above]
Newid am Oes
Food in schools by British Nutrition Foundation – mae ychydig o arweiniad defnyddiol y gall rhieni eu mabwysiadu yn y canllaw hwn i ysgolion
BDA – The Association of UK Dieticians.