BWYTA BWYD, CASÁU GWASTRAFF
-
Tanwydd yw bwyd
-
Trefn gyson
-
Afraid pob afrad
Rydych chi’n gwerthfawrogi cael trefn gyson a allai gynnwys siopa i brynu’r rhan fwyaf o’ch bwyd unwaith yr wythnos, a siopa am fanion yn rheolaidd i ychwanegu at beth sydd yn yr oergell. Er nad ydych chi’n brin o amser, mae bwyd yn flaenoriaeth isel i chi, felly nid ydych chi bob amser yn frwd dros ddefnyddio rhestrau siopa na chynlluniau prydau ar gyfer yr wythnos, sy’n teimlo fel y gallent gymryd mwy o amser nag yr hoffech ei dreulio ar y rhan hon o’ch bywyd. Yn anffodus, gall hyn olygu fod gennych chi ormod o fwyd adref, a bod ychydig o’r bwyd y gallech chi fod wedi’i fwyta, yn cael ei daflu i’r bin. Er bod gennych chi ymagwedd ‘afraid pob afrad’ foesol gryf, nid ydych chi bob amser yn sylwi faint o’ch bwyd sy’n cael ei daflu.
Bydd gwneud y mwyaf o’ch rhewgell yn eich helpu i reoli eich bwyd yn well, os nad ydych chi’n hoffi defnyddio rhestrau siopa a chynlluniau prydau. Bydd mesur dognau perffaith ar gyfer bwydydd fel pasta a reis hefyd yn eich helpu i gyfyngu ar fwyd dros ben, efallai nad ydych chi bob amser yn gwybod beth i’w wneud ag ef.
Darganfyddwch fwy am sut i wneud eich bwyd i fynd ymhellach, trwy wneud y mwyaf o’ch rhewgell .
Awgrymiadau da ar gyfer y Bwytäwyr Pwrpasol:
Mesurwch ddognau bwydydd fel pasta a thatws i osgoi gwastraff
Rhewch fwyd dros ben i’w ailgynhesu’n ddiweddarach