LFHW Cadw eich bara’n ffres | Love Food Hate Waste Wales

Cadw eich bara’n ffres

Article Type
What To Do
Article Subcategory

Ac rydyn ni’n cymryd bara o ddifrif.

Bara brown, bara gwyn, bara gwenith cyflawn, bara fflat, naan, surdoes, rhyg, bara heb glwten, bagét, bara cartref, rholiau bara, briwsion bara, crystiau bara a phob math arall o fara.

Does dim angen gwastraffu’r un briwsionyn ohono.

Storio bara

Y bin bara neu’r cwpwrdd

Bydd eich bara yn cadw’n fwy ffres yn hirach o’i gadw yn ei becyn gwreiddiol a'i storio mewn lle oer, tywyll a sych, fel bin bara neu gwpwrdd.

Ar ôl i chi agor y dorth, clymwch y bag gyda'r tag 'gorau cyn’ neu glip bag (mae peg dillad yn gwneud hyn yn wych hefyd!)

Cadwch y crystyn yn ei le i gadw’r dafell nesaf yn ffres.

Glanhewch eich bin bara neu'ch cwpwrdd yn rheolaidd i gael gwared â sborau llwydni a allai effeithio ar eich bara.

Mae dyddiad ‘gorau cyn’ ar fag eich bara. Dim ond yr ansawdd y mae’n cyfeirio ato – gellir bwyta bara ar ôl y dyddiad hwn, ond efallai na fydd ar ei orau.

Gallwch rewi bara!

Ydi, mae’n bosibl i chi rewi bara ar unrhyw adeg. Y cwbl sydd raid ichi ei wneud yw ei roi yn ei becyn gwreiddiol, mewn cynhwysydd sy’n selio, neu mewn bagiau rhewgell neu haenen lynu cyn ei rewi. Mae hyn yn ei atal rhag sychu yn y rhewgell.

Mae rhewi bara yn ffordd dda o fanteisio ar gynigion arbennig ar roliau neu fara fflat. Rhewch rai yn syth ar ôl eu prynu, neu ar unrhyw adeg hyd at y diwrnod gorau cyn. Gwahanwch nhw cyn eu rhoi yn y rhewgell i’w hatal rhag glynu at ei gilydd.

O’r rhewgell i’r tostiwr

Rhewch eich torth newydd yn syth ar ôl cyrraedd adref, a ni chaiff yr un dafell ei gwastraffu, a ni fyddwch yn rhedeg allan o fara i wneud tost byth eto! Rhowch gnoc bach i’r dorth yn erbyn rhywbeth caled, fel cownter y gegin, i wahanu’r tafelli wedyn ei rhoi yn y rhewgell.

I wneud tost, rhowch y tafelli yn y tostiwr yn syth o’r rhewgell.

O’r rhewgell i’r frechdan

I wneud brechdanau, gallwch ddadrewi’r tafelli sydd eu hangen arnoch yn y microdon gan ddefnyddio’r gwres ‘dadrewi’. Sicrhewch nad oes lympiau rhewllyd na darnau rhy oer yn y canol.

Gallwch wneud pecyn cinio’n ddidrafferth. Cymerwch dafelli o’r rhewgell, ychwanegwch eich hoff gynhwysion, a’i lapio neu ei roi yn eich bocs bwyd. Bydd y bara’n dadrewi’n araf yn ystod y bore, ac yn barod erbyn cinio. Cofiwch sicrhau bod y brechdanau wedi dadmer yn llawn cyn eu bwyta.

Peidiwch â chadw bara yn yr oergell

Mae bara’n cadw’n hirach ar dymheredd ystafell neu yn y rhewgell. Dim ond os yw’r tywydd yn boeth iawn y dylech gadw bara yn yr oergell. Tynnwch eich bara o’r oergell tuag awr cyn ei ddefnyddio, i roi cyfle iddo feddalu.

Rysetiau bara

Os oes gennych ambell dafell o fara dros ben, neu hen fara sydd angen ei ddefnyddio, beth am roi cynnig ar rai o’n rysetiau ar gyfer bwyd dros ben.

Cymraeg