LFHW Cadw eich llaeth yn ffres | Love Food Hate Waste Wales

Cadw eich llaeth yn ffres

Article Type
What To Do
Article Subcategory

Storio eich llaeth

Mae pawb yn gwybod mai’r oergell yw’r lle i’ch llaeth.

Ond a ydych chi erioed wedi gwirio tymheredd eich oergell? Bydd oergell ar y tymheredd cywir yn cadw llaeth – a phopeth arall – yn fwy ffres yn hirach.

Y tymheredd delfrydol ar gyfer eich oergell yw 0–5 °C.

Mae gan laeth ddyddiad ‘Defnyddio Erbyn’, sy’n cyfeirio at ba mor ddiogel yw’r llaeth. Ni ddylid defnyddio llaeth ar ôl y dyddiad hwn.

Gallwch rewi llaeth!

Caiff bron i hanner y llaeth sy’n cael ei wastraffu ei arllwys i lawr y sinc gan na chafodd ei ddefnyddio mewn pryd. Yn benodol, am ein bod yn meddwl ei fod heibio’i orau.

I wneud i’ch llaeth gadw’n hirach fyth, gallwch ei rewi ar unrhyw adeg hyd at ei ddyddiad ‘Defnyddio Erbyn’. Cadwch ef yn y botel neu’r carton gwreiddiol a’i roi yn y rhewgell – neu arllwyswch ef i mewn i gynhwysydd sy’n selio neu gwnewch giwbiau rhew ag ef yn gyntaf os nad oes gennych lawer o le yn y rhewgell.

Os byddwch chi’n mynd i ffwrdd ar eich gwyliau neu am benwythnos, beth am rewi’r llaeth sydd dros ben yn yr oergell cyn cychwyn? Felly, bydd gennych laeth i wneud disgled pan gyrhaeddwch chi adref!

Gallwch ddefnyddio llaeth wedi’i rewi yn syth o’r rhewgell i goginio, mewn sawsiau neu gawl, er enghraifft. Os gwnaethoch ei rewi fel ciwbiau rhew, rhowch giwb yn eich te neu goffi. Bydd hefyd yn oeri eich diod boeth yn gynt, felly gallwch ei yfed yn gynt! Gallwch hefyd ddadrewi llaeth yn arafach yn yr oergell, yn barod ar gyfer brecwast drannoeth.

Llaeth dros ben

Os ydych wedi rhoi cynnig ar ein cynghorion storio a bod gennych laeth ffres dros ben – defnyddiwch bob diferyn!

(Psst! Wyddoch chi mai llaeth yw’r cynhwysyn cudd mewn llu o rysetiau bwydydd dros ben …?)

Cymraeg