Daw’r Nadolig unwaith y flwyddyn yn unig. Ac efallai bod rhai ohonom yn ddiolchgar am hynny gan fod y cyfnod yn dechrau’n gynt nag erioed. Yn enwedig gan ein bod ni wedi canfod bod dros draean ohonom o’r farn ein bod ni, ym Mhrydain, yn taflu mwy o fwyd i ffwrdd adeg y Nadolig nag unrhyw adeg arall.
Peidiwch â phoeni, mae gennym ni ffordd fwy deallus, rhatach i fynd i’r afael â hynny. Mewn gwirionedd, rydym ni’n eithaf hyderus y gallwch fynd o noswyl Nadolig hyd at y deuddegfed noson heb roi llawer yn y bin o gwbl - y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw meddwl yn gyfrwys, cynllunio syml, ac ychydig o storio neu rewi gofalus. Afraid dweud, mae ein gweithwyr Creadigol yn y Gegin wedi bod yn gweithio’n galed. Yn ffodus, mae dewisiadau eraill yn lle cyri twrci. Ac ydyn, maen nhw wedi cynnig syniadau i fynd i’r afael ag ysgewyll dros ben...
Stwnsh tatws a chabetsh
Peidiwch â thaflu’r trimins i ffwrdd. Mae bwyd dros ben clasurol y Nadolig - o datws stwnsh i lysiau’r gaeaf wedi’u coginio - yn sylfaen y pryd Prydeinig gwych, stwnsh tatws a chabetsh. Ond beth am ychwanegu ychydig o naws y Nadolig? Beth am ychwanegu gamwn neu dwrci wedi’i dorri’n fân, neu rywbeth o’r bwrdd caws, yn ogystal â llond llwy neu ddwy o mayonnaise? Bydd gwneud lle yn y badell a ffrio wy yn y canol yn rhoi elfen Nadoligaidd iddo hefyd. A bydd yn cymryd dim ond 15 munud.
Sbrowts, sbrowts a mwy o sbrowts
Nid oes pawb yn hoffi sbrowts - ac ymddengys fod y rhan fwyaf o deuluoedd yn cynnwys un neu ddau sy’n gwrthod bwyta sbrowts. Mae gwneud gratin allan o sbrowts dros ben yn ffordd wych i uwchgylchu un o gas fwydydd y Nadolig. Dechreuwch trwy wneud saws gwyn (neu roux) ac ychwanegu winwns neu sialóts wedi’u ffrio, ychydig o gaws wedi’i gratio (mae Gruyere yn gweithio’n dda, ond gallech ddefnyddio unrhyw ddarnau o gaws sydd gennych dros ben). Ffriwch ychydig o gig moch neu pancetta wedi’i dorri’n fân, a’i ychwanegu. Rhowch eich sbrowts wedi’i berwi mewn dysgl dal gwres, arllwyswch y saws blasus drostynt, a rhoi briwsion bara a thafelli cog moch ar ei ben. Coginiwch y cyfan mewn popty wedi’i gynhesu ymlaen llaw, ar 180°C (160°C popty â ffan) am 25 munud.
Rhewi
Nid yw pawb yn ddigon ffodus i gael oergell arddull Americanaidd, tebyg i’r Tardis, adref. Felly os yw’r oergell yn llenwi’n rhy gyflym (cofiwch fod angen i’r aer gylchredeg yn yr oergell er mwyn iddi weithio’n iawn), mae dewisiadau eraill. Gallwch rewi unrhyw beth y mae modd ei rewi hyd at y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Os gallwch goginio mewn swmp, ac yna ei rewi, byddwch ar eich ffordd: mae coginio unwaith a bwyta ddwywaith yn ffordd wych i wneud eich arian i fynd ymhellach. Peidiwch ag anghofio ei rannu’n ddognau cyn ei rewi i’w gwneud hi’n hawdd a chyflym i’w dadmer a’u cynhesu pan fyddwch angen pryd cyflym. Yn y cyfamser, os ydych yn berchen ar ystafell wydr neu garej oer, defnyddiwch y rhain er mwyn rhyddhau ychydig o le yn eich oergell. Gallwch oeri rhai pethau, o win gwyn a sudd ffrwythau i jariau o saws a siytni yno.
Oddi wrth bawb yn Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff, Nadolig Llawen iawn a fwydgarol i chi.
Rysáit stwnsh tatws a chabetsh, diolch i Caroline Marson