LFHW Crëwr Digymell | Love Food Hate Waste Wales

Crëwr Digymell

Article Type
Love Food
Article Subcategory

CARU BWYD, CARU BYWYD

  • segmentation icon

    Credu yn yr achos

  • segmentation icon

    Annibynnol

  • segmentation icon

    Yn awyddus i wneud eich rhan

Mae Crëwyr Digymell yn credu’n gryf yn yr achos arbed bwyd, ac maent yn teimlo bod llawer o resymau cymhellol dros newydd arferion gwael. Mae gennych chi feddwl rhyddfrydig, ac rydych yn mwynhau’r elfen o deimlo’n dda, sy’n cyd-fynd â gwneud eich rhan. Rydych chi’n synhywrol ac yn bragmataidd, ac yn hoff o awgrymiadau a chyngor ymarferol sy’n effeithio arnoch chi yn bersonol. Rydych chi’n ymfalchïo yn eich unigolrwydd, ond rydych chi’n gwybod y gall newidiadau cymharol fach mewn ymddygiad gael effaith. Rydych chi’n ysbryd annibynnol, ond mae o bwys i chi beth mae pobl yn ei feddwl - er nid i’r graddau ei fod yn amharu ar eich rhyddid i wneud beth rydych chi eisiau ei wneud.

Darganfyddwch fwy am sut gall y newidiadau bach rydych chi’n eu gwneud adref arwain at gael mwy o arian yn eich poced ar ddiwedd pob mis.

Awgrymiadau da ar gyfer y Crëwr Digymell:

Defnyddiwch declynnau yn y gegin i ddefnyddio bwyd sy’n agosáu at ddiwedd ei oes defnyddiol

Lluniwch gasgliad o ryseitiau craidd y gallwch eu haddasu’n seiliedig ar beth sydd wrth law

Cymraeg