LFHW Darganfyddwr Dyheadol | Love Food Hate Waste Wales

Darganfyddwr Dyheadol

Article Type
Love Food
Article Subcategory

HOFFI BWYD, GWASTRAFF UCHEL

  • segmentation icon

    Yn frwd dros yr amgylchedd

  • segmentation icon

    Yn ymwybodol o iechyd

  • segmentation icon

    Yn awyddus i wneud eich rhan

Efallai eich bod chi’n dal i feistroli crefft coginio, ond rydych chi’n bendant wedi dechrau arni yn frwdfrydig. Mae’r grŵp hwn yn hoffi rhoi cynnig ar fwydydd newydd, ac maent yn hoff o fwyta allan neu archebu tecawê. Rydych chi’n dueddol o fod yn ymwybodol o iechyd ac yn cael eich ysbrydoli gan ryseitiau cyffrous yr ydych chi’n aml yn eu cyrchu ar eich ffôn neu lechen, ac yn eu creu nhw adref. Fodd bynnag, gall eich bywyd cymdeithasol prysur arwain at newidiadau munud olaf i brydau - ni allwch wrthod gwahoddiad i gael diod ar ôl gwaith (a pham ddylech chi!?) - sy’n golygu y gall y bwyd yr oeddech chi wedi bwriadu ei fwyta, gael ei daflu i’r bin. O’r holl grwpiau, y grŵp hwn sy’n poeni fwyaf am yr amgylchedd, ond nid yw Darganfyddwyr Dyheadol bob amser yn gwneud y cysylltiad rhwng y pethau bychan y gallan nhw eu gwneud i ddefnyddio’r bwyd y maen nhw’n ei brynu a’r effaith fawr y bydd gweithredu cyfunol yn ei gael ar yr amgylchedd.

Pan fyddwch yn cael gwahoddiadau cymdeithasol annisgwyl, meddyliwch sut y gallwch reoli’r bwyd sydd eisoes gennych chi yn eich oergell a’ch cypyrddau. Gallwch dorri’r rhan fwyaf o ffrwythau a llysiau a’u rhewi, yn barod i’w defnyddio pan fyddwch eu hangen. Gallwch roi bara a chynhyrchion pobi eraill yn y rhewgell hefyd. Beth am wneud brechdanau gyda’ch hoff lenwadau, a’u rhewi nhw. Tynnwch nhw allan peth cyntaf yn y bore, a byddan nhw wedi dadmer erbyn amser cinio - yn dda i’ch poced a’r amgylchedd hefyd.

Darganfyddwch fwy ynghylch sut gall y newidiadau bach rydych chi’n eu gwneud adref i reoli eich bwyd, arwain at newidiadau mawr i’r amgylchedd, a’ch poced chi hefyd.

Awgrymiadau da ar gyfer y Darganfyddwr Dyheadol:

Torrwch a rhewch ffrwythau a llysiau ffres i’w defnyddio’n ddiweddarach

Rhewch fara a chynhyrchion pobi eraill, i’w defnyddio pa bryd bynnag y byddwch eu hangen

Cymraeg