LFHW Darparwr Dan Bwysau | Love Food Hate Waste Wales

Darparwr Dan Bwysau

Article Type
Love Food
Article Subcategory

HOFFI BWYD, OSGOI GWASTRAFF

  • segmentation icon

    Ymwybodol o iechyd

  • segmentation icon

    Prin o amser

  • segmentation icon

    Cynlluniwr

Mae ffordd o fyw'r grŵp hwn yn llawn, gyda chartref, bywyd cymdeithasol a bywyd gwaith prysur, sy’n golygu nad oes gan lawer o’r bobl yn y grŵp hwn lawer o amser. Mae newid cynllunio a chamu i’r tywyllwch amser swper - nid ydych chi bob amser yn gwybod sawl un ohonoch fydd wrth y bwrdd - yn golygu eich bod chi’n cynllunio ar gyfer unrhyw achlysur. Mae cynllunio yn eich helpu chi i deimlo’n fwy parod, ond oherwydd bod rhaid i chi brynu mwy na’r hyn sydd ei angen arnoch, nid ydych chi bob amser yn cael cyfle i fwyta popeth cyn iddo ddifetha.

Rydych chi’n gwerthfawrogi syniadau ac awgrymiadau cyflym a hawdd, sy’n eich helpu i gael mwy o werth o’ch bwyd, heb gymryd gormod o’ch amser, ac rydych chi’n hoffi gweld sut mae arbed bwyd o fudd i chi’n bersonol. Rydych chi’n gwerthfawrogi hyblygrwydd a rhyddid i ddewis sut i reoli eich bwyd, ac rydych chi’n hoffi ymbleseru mewn danteithfwyd, pan fydd modd.

Gallai gwneud newidiadau bach i’r ffordd rydych chi’n rheoli eich oergell a’ch rhewgell olygu nad ydych chi byth yn brin o fwyd, ond nid yw’r bwyd hwnnw’n difetha cyn i chi ei fwyta. Gallwch dorri’r rhan fwyaf o ffrwythau a llysiau ffres yn ddarnau a’u rhewi, yn barod i’w defnyddio pan fyddwch chi eu hangen. Gallwch rewi bara a chynhyrchion pobi eraill hefyd.

Os ydych chi’n dueddol o goginio gormod, neu os ydych chi’n hoffi’r syniad o gael ychydig o brydau’n barod yn y rhewgell, gwnewch yn siŵr fod gennych chi amrywiaeth o fagiau rhewi a blychau storio gwahanol i roi eich bwyd dros ben ynddynt cyn eu rhewi. Storiwch nhw fesul dognau i un, fel eich bod chi’n gwybod faint fyddant yn eu bwydo, a gwnewch yn siwr eich bod chi’n eu labelu nhw fel eich bod chi’n gwybod beth sydd ynddyn nhw, a phryd y gwnaethoch chi eu rhewi nhw.

I ddarganfod mwy am y ffordd y gall y newidiadau bach rydych chi’n eu gwneud adref i reoli eich bwyd arwain at newidiadau mawr i’r amgylchedd a’ch poced hefyd.

Awgrymiadau da ar gyfer y Darparwr Dan Bwysau:

Dylech rewi bwyd dros ben yn barod i’w ailgynhesu’n ddiweddarach, pan fyddwch yn brin o amser

Gallwch dorri a rhewi ffrwythau a llysiau ffres i’w defnyddio’n ddiweddarachr

Cymraeg