Eiriolwr Delfrydol

Article Type
Love Food
Article Subcategory

HOFFI BWYD, CASÁU GWASTRAFF

  • segmentation icon

    Trefn gyson

  • segmentation icon

    Mwynhau bwyd a choginio

  • segmentation icon

    Ymchwilio i’r achos

Mae’r grŵp hwn wedi meistroli’r grefft o wneud y mwyaf o’u bwyd. Rydych chi’n hoffi bwyd a choginio, ac yn ei ystyried yn hobi yr ydych chi’n mwynhau treulio amser yn ei wneud. Mae’n helpu eich bod chi fwy na thebyg yn sefydlog yn ariannol ac mae gennych chi ychydig bach yn fwy o amser ar eich dwylo na rhai o’r grwpiau eraill, neu efallai nad oedd gennych chi yn y gorffennol. Er eich bod chi weithiau’n taflu bwyd, mae gennych chi’r sgiliau a’r hyder i ddod o hyd i ddefnydd arall ar gyfer bwyd nad yw ar ei orau. Rydych chi’n gwybod sut i gadw eich bwyd yn ffres a gwneud iddo bara’n hwy trwy roi pethau yn y lle cywir a defnyddio eich rhewgell.

Rydych chi’n hoffi darllen am fwyd, materion cyfoes a materion y byd, ac rydych chi’n gwerthfawrogi tystiolaeth, ffeithiau ac ystadegau sy’n ehangu a dwysáu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth. Rydych chi’n hapus i rannu eich syniadau a’ch awgrymiadau arbed bwyd, ac rydych chi’n deall beth yw pwrpas Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff, a sefydliadau eraill tebyg.

Helpwch ni i helpu pobl eraill i ddysgu sut i wneud y mwyaf o’r bwyd y maen nhw’n ei hoffi trwy ymuno â chymuned Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff, a rhannu rhai o’ch hoff ryseitiau bwyd dros ben.

Awgrymiadau da ar gyfer yr Eiriolwr Delfrydol:

Rhannwch rai o’ch hoff ryseitiau bwyd dros ben gyda chymuned Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff

Cymraeg