A yw eich llysiau angen dail gyfle?
Deffrowch eich llysiau llipa mewn gwydryn neu bowlen o ddŵr oer – mi fyddan nhw fel newydd o fewn hanner awr.
Tatws i’w trysori
Gallwch wneud tatws stwnsh llyfn, blasus gan gynnwys y crwyn. Torrwch datws cyfan, glân yn giwbiau bychain a’u berwi am 15 munud – wedyn eu stwnshio gydag ychydig o fenyn a llaeth, ac er na sylwch chi ddim ar y crwyn, byddwch yn cael y maeth i gyd.
Ymsythwch, filwyr!!
Eisiau soldiwrs cryf? Defnyddiwch ddau ben eich torth – i’r tostiwr â nhw, wedyn ychydig o fenyn, eu torri a’u dipio!
Cyfoethogwch eich crymbl
Does dim angen plicio’r afalau i wneud y pwdin gaeafol blasus hwn! Tafellwch yr afalau’n denau neu eu torri’n giwbiau bach, gan arbed amser a rhoi ychydig o liw i’ch crymbl ar yr un pryd!
Cofiwch y crystiau
Cadwch eich hoff salsa neu saws dipio wrth law y tro nesaf y byddwch yn gweini pizza, i sicrhau bod y plant – a’r plant mawr – yn bwyta eu crystiau!
Cyngor o'r top
Defnyddiwch dopiau eich sbrowts (y dail o ‘goeden’ sbrowts ffres) fel llysieuyn gwyrdd blasus ac iachus ohono’i hun – dewis delfrydol yn lle bresych.
Bara beunyddiol
Mae’r tafelli bob pen i dorth o fara yn gwneud gwaelod pizza bach ardderchog. Gwnewch fyrbryd sydyn a rhad trwy roi topins ar y tafelli o bob pen i’r dorth – blasus iawn!
Caws!
Y tro nesa byddwch chi’n gwneud blodfresych mewn saws caws, cofiwch gynnwys y dail a’r coesyn am bryd mwy blasus a mwy lliwgar fyth.
Dychwelyd at eich gwreiddiau
Pam ydyn ni’n plicio betys pan nad oes wir angen gwneud? Mae’r crwyn yn ardderchog wedi’u rhostio’n gyflawn mewn olew, neu wedi’u torri’n lletemau. Mae’r dail hefyd yn flasus iawn yn amrwd neu wedi’u coginio – yn union fel ysgallddail neu sbigoglys.