Torri, plicio, taflu? Ai dyna’ch arfer?
Mae’n rhy hawdd o lawer i roi’r darnau dros ben yn y bin, fel y gwnaethoch erioed wrth baratoi prydau bwyd, ond gellir bwyta llawer o’r darnau a daflwn – ac yn aml, y rheiny yw’r darnau gorau o ran blas a maeth. Dyma ambell i syniad syml i’ch ysbrydoli i gyflawni’r cwbl.
Crwyn oren a lemon
Gwnaiff candi-pil gadw am 6–8 wythnos mewn twbyn aerdyn. Mae’r rysáit hon gan BBC Good Food yn dangos sut. Gallwch ei ddefnyddio mewn teisennau ffrwythau, myffins neu ddanteithion melys eraill.
Mae’r ddolen uchod yn arwain at wefan uniaith Saesneg.
Hadau pwmpen
Mae hadau pwmpen wedi’u rhostio yn faethlon ac yn flasus, yn ogystal â bod yn andros o hawdd i’w gwneud. Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw rhoi hadau mewn powlen gyda menyn tawdd a halen, eu gwasgaru ar haenen bobi a’u pobi am 45 munud ar 150°C/nwy 2. Dyna fyrbryd blasus!
Dail blodfresych
Bwytewch fwy o lysiau gwyrdd – golchwch y dail allanol yn drylwyr, cyn eu rhoi mewn powlen gydag olew a sbeisiau. Gosodwch nhw mewn un haen ar dun pobi a’u rhostio yn y ffwrn nes byddan nhw’n grimp. Hawdd!
Dail moron
Peidiwch â rhoi’r darnau gorau i’r gwningen! Mae dail moron nid yn unig yn fwytadwy, ond yn flasus iawn ac yn llawn maeth. Beth am eu rhoi mewn prosesydd bwyd i wneud pesto pen moron gydag olew olewydd, garlleg a chaws Parma a’i ddiferu ar ben eich moron rhost?
Calon bresych
Mae calon bresych yn llawn buddion iechyd, ac mae llawer o ffyrdd y gallwch ddefnyddio eich bresych cyfan – nid eu dail yn unig. Gallwch eu rhwygo i’w defnyddio mewn salad, cawl neu botes.
Coesynnau perlysiau
Nid dail y persli, coriander, basil a mintys sy’n dda i’w bwyta, mae’r coesynnau blasus yn llawn cystal. Torrwch nhw a’u defnyddio mewn dipiau a sawsiau, eu blendio i wneud pesto neu gallwch eu hysgeintio ar seigiau sawrus. Dyna beth yw cael blas ar y coesyn cyflawn!
Topiau’r sbrowts
Gallwch fwyta mwy na dim ond y sbrowts pan fyddwch wedi prynu ‘coeden’ sbrowts gyfan – gallwch fwyta’r dail crwn ar y top hefyd. Mae’r goron hon o faeth a fitaminau mor flasus, mae rhai siopau bellach yn ei werthu fel cynnyrch ohono’i hun – rhowch gynnig arnynt mewn tro-ffrio, cawliau neu botes.
Cennin a shibwns
Ydych chi’n rhoi’r gorau i dorri pan fyddwch chi’n cyrraedd pen y rhan gwyn? Peidiwch – mae pennau gwyrdd cennin a shibwns yn llawn maeth a blas. Defnyddiwch nhw yn yr un modd â gweddill y llysieuyn, a gwnewch yn siŵr eich bod yn eu golchi’n drylwyr.