LFHW Mae’r cwbl yn cyfrif | Love Food Hate Waste Wales

Mae’r cwbl yn cyfrif

Article Type
Why Save Food
Article Subcategory

Mae’r teulu cyfartalog sydd â phlant yn y DU yn taflu gwerth £800 o fwyd y flwyddyn, dyna £70 y mis. Mae’n rhaid cael bwyd yn ei le, sy’n golygu mwy o siopa, mwy o goginio a mwy o gost. Rydym yn siŵr yr hoffech chi osgoi’r teithiau ychwanegol i’r archfarchnad ac arbed arian, felly dyma rai syniadau ynghylch sut gallwch ei wario os gallwch ei arbed.


Llawenydd yr Ŵyl

Gallai arbediad o £70 y mis dros flwyddyn – £800 – wneud tolc mawr yng nghostau’r Nadolig. Yn 2015, canfu’r cwmni pleidleisio YouGov fod cartrefi Prydain yn disgwyl gwario ar gyfartaledd £796 adeg y Nadolig ar anrhegion, bwyd, diod ac ychwanegion fel cardiau.


Gwyliau gwell

Ydych chi’n hoffi teithio? Gallai £800 dalu am wyliau byr i Fenis, Praha neu Budapest gyda British Airways. Neu gallwch brynu tocyn aelodaeth teulu blynyddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (oddeutu £120) a bod â £680 ar ôl o hyd i wario ar deithio, bwyd a llety wrth ymweld.


Costau ar y ffordd

Os ydych yn yrrwr, bydd £800 yn talu am deiars newydd yn lle’r hen rai, gwasanaeth blynyddol ac MOT llawer o geir teulu poblogaidd, fel y Ford Focus, yn Kwik-Fit. Neu gallai dalu am ymron i holl gost premiwm yswiriant car cyfartalog. Mae hynny’n £737 y flwyddyn yn ôl confused.com.


Arbed doeth

Os yw’n well gennych arbed eich arian, efallai y bydd talu dyled yn gwneud synnwyr i chi. Byddai £800 yn tynnu talp sylweddol o falans cardiau credyd cyfartalog cartrefi’r DU o £2,434. Byddai hefyd yn talu dros ddau fis o’r taliad llog morgais cyfartalog yn y DU – sy’n £271 y mis ar hyn o bryd yn ôl themoneycharity.org.uk. themoneycharity.org.uk.


Cynigiwch lwnc destun (neu fwg) i gynilon

Yn olaf, os ydych yn hoffi diod nawr ac yn y man, £800 yw cost 222 peint o gwrw mewn tafarn (£3.60 am beint cyfartalog) neu 100 potel win o siop drwyddedig (am botel pris canolig o £8). Os nad ydych yn mynd i’r dafarn yn rheolaidd ond yr ydych yn hoffi joch o goffi, gallech wario eich cynilion ar hyd at 250 cwpanaid o goffi yn lle hynny


O wario ... i ennill

Dim ond hanner yr hafaliad yw gwario. A dyna lle mae’r rhifau’n rhyfeddol.

Y £70 y mis neu £800 y flwyddyn y gallwch ei arbed yw’r cyfanswm ar ôl tynnu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Ac i gael £800 arall yn eich poced, mae angen i chi ei ennill drwy eich cyflog. Dwedwch eich bod yn ennill y gyflog gyfartalog o £26,500 ar gyfer gweithiwr llawn-amser. Er mwyn mynd â £800 o gyflog net ychwanegol adref, mae angen i chi ennill £1,000 arall y flwyddyn mewn cyflog gros.

Mae’r cwbl yn cyfrif... taflu llai o fwyd = gwario llai ar fwyd = mwy o arian i wario ar y pethau yr ydych yn eu hoffi. Anhygoel.

Sylwch:
Rydym wedi defnyddio ffigurau cyfartalog yn yr erthygl hon. Gallai eich sefyllfa fod yn wahanol, yn ddibynnol ar amrywiaeth eang o ffactorau, yn cynnwys eich oed, cyflog, teulu a lle’r ydych yn byw yn y DU.

Cymraeg