Mae’r pen-cogydd teledu yn syfrdanu Cymru gydag arddangosiadau coginio

Article Type
Why Save Food
Article Subcategory

Yn ystod Medi 2016, bu Richard a’r sioe deithiol yn ymweld â 21 lleoliad ledled Cymru, yn cynnig gweithgareddau llawn hwyl a rhyngweithiol. Cafwyd arddangosfeydd coginio byw a chyngor ymarferol ar gynllunio prydau, cyfrifo meintiau cyfran, deall labeli dyddiadau a storio bwyd yn gywir fel ei fod yn parhau am gyfnod hirach.

Mae gan Richard flynyddoedd o brofiad fel pen-cogydd teledu ac ef yw arbenigwr arbed bwyd Supper Scrimpers, Channel 4. Mae wedi ymddangos hefyd ar UKTV Food, Saturday Cooks, ITV a’r Good Food Show, BBC Radio 4.

Dechreuodd y sioe deithiol yn Sir Fôn ar 2 Medi a daeth i ben yng Ngŵyl Fwyd Casnewydd ar 5 Hydref. Llwyddodd i helpu pobl ledled Cymru i ddysgu am y pethau syml y gallwn eu gwneud gartref i wneud y gorau o’r bwyd yr ydym wedi’i brynu.

Dywedodd Lyndsey Stewart o Ailgylchu dros Gymru (Cynllun Craff am Wastraff yn flaenorol): “Rydym yn taflu tua 400,000 tunnell o fwyd a diod da bob blwyddyn ond o’n cartrefi yng Nghymru, tua £12 biliwn sy’n costio £50 y mis i’r teulu cyfartalog. Dyma swm aruthrol, yn arbennig pan ydych yn ystyried fod y rhan fwyaf ohono, neu yr oedd unwaith, yn fwyd da y gellid fod wedi ei fwyta.

“Y prif resymau am wastraffu bwyd yw ein bod yn coginio neu’n paratoi gormod a ddim yn ei fwyta cyn iddo fynd heibio’r dyddiad y dylid ei fwyta. Gall newidiadau bach, syml yn y gegin wneud gwahaniaeth mawr, fel dysgu am faint cyfrannau a’r labeli dyddiad gwahanol a ddefnyddir ar fwyd.""

Croesawodd Alun Davies, y Gweinidog dros Adnoddau Naturiol a Bwyd (bryd hynny), Richard a chriw'r sioe deithiol. “Gall pobl fod yn ddihyder neu’n anwybodus ynghylch sut i droi bwyd sydd dros ben yn brydau maethlon, blasus. Bydd y sioe deithiol yn helpu pobl ledled Cymru i ddysgu am y llawer o bethau syml y gallant eu gwneud i wneud y gorau o’r bwyd yn eu hoergell er mwyn arbed arian ac arbed mwy o fwyd.

“Y peth gorau y gallwn ni ei wneud yw atal gwastraff bwyd yn y lle cyntaf drwy gynllunio prydau a choginio’r hyn yr ydym ei angen. Ond ni ellir osgoi peth gwastraff bwyd fel plisgon wy a chrafion llysiau. Dyma pam fo’r holl awdurdodau lleol yng Nghymru’n darparu gwasanaeth casglu gwastraff bwyd y tu allan, sy’n cynnwys naw allan o ddeg cartref.”

Beth mae Ailgylchu dros Gymru’n ei wneud?
http://www.recycleforwales.org.uk/cy

Cymraeg