LFHW Mae pawb yn wahanol | Love Food Hate Waste Wales

Mae pawb yn wahanol

Article Type
Love Food
Hate Waste
Article Subcategory

Mae defnyddio ein Cynlluniwr Dognau Bob Dydd yn gyflym, yn syml ac yn hawdd.

Gair i gall - mae pawb yn wahanol! Defnyddiwch ymagwedd synnwyr cyffredin wrth ddefnyddio’r cynlluniwr, gan ystyried cyngor maethol ac unrhyw ddietau arbennig y gall gweithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig fod wedi’u argymell i chi.

Pwy yw Mr neu Miss Cyfartalog?

Mae’r meintiau gweini yn y cynlluniwr yn dangos faint o bob bwyd y dylai unigolyn ‘maint cyfartalog’ ei fwyta. Defnyddiwch eich barn ynghylch y bobl rydych chi’n prynu bwyd ar eu cyfer, neu’n paratoi prydau ar eu cyfer, e.e. pobl llai o gymharu â phobl dalach ac ati. Mae gennym ni gyd anghenion maethol gwahanol gan ddibynnu ar ein hoedran, lefel ein gweithgarwch dyddiol, a’n rhyw.  

Rydym ni’n hoffi term a ddefnyddir ar wefan Newid am Oes wrth sôn am blant - prydau ‘Me-sized’’. Maen nhw’n argymell gweini dognau bach i blant amser bwyd, sy’n addas ar gyfer eu maint, ac os ydyn nhw’n llwglyd o hyd, byddan nhw’n gofyn am fwy. Gallai meddwl am feintiau gweini o ran ‘Me-sized’ fod yn berthnasol i oedolion hefyd! Peidiwch â chael eich temtio i ddyfalu na goramcangyfrif. Ar ôl i chi ddod yn gyfarwydd â beth yw meintiau gweini iach, byddant yn dod yn ail natur cyn hir.

Newid y norm cymdeithasol

Rydym ni’n gwybod nad yw bywyd bob amser yn syml, ac mae llawer o bethau sy’n dylanwadu ar beth rydym ni’n ei wneud, hyd yn oed os nad ydym ni’n meddwl yn ymwybodol amdano. Mae rhai o’r pethau hyn yn effeithio ar faint o fwyd y cawn ein cyflyru i gredu y dylem ei weini, sydd, yn amlach na dim, yn arwain at fwyd dros ben, a llawer ohono’n cael ei daflu i’r bin.

A yw rhai o’r pethau hyn yn swnio’n gyfarwydd i chi? ‘Rydw i eisiau i’m gwesteion deimlo bod digon o fwyd ar y bwrdd i’w fwyta’, ’Efallai y bydd pobl yn meddwl fy mod i’n bod yn gynnil gyda bwyd os na fydda’ i’n gweini llawer o fwyd’, ‘Dw i ddim eisiau i fy nheulu deimlo’n llwglyd’, ac ati.

Bydd yn cymryd amser i newid y normau cymdeithasol hyn i rai sy’n adlewyrchu realiti – nid oes angen i ni fwyta cymaint o fwyd â’r hyn rydym yn creu y dylem ni.

Mae angen i ni gyd ddechrau yn rhywle, a dyma rai pethau hawdd y gallwch eu gwneud heddiw:

  • Defnyddiwch blatiau llai amser bwyd – mae prydau meintiau dognau iach yn debygol o lenwi’r platiau llai hyn, felly mae hyn yn helpu i ailosod ein meddyliau o ran beth yw maint dogn iach.
  • Beth am ddefnyddio ein Cynlluniwr Dognau – bob dydd! Byddwch yn darganfod yn hawdd faint y dylech fod yn ei fwyta mewn gwirionedd o gymharu â faint rydych chi wedi bod yn ei weini amser bwyd – ac anogwch eich teulu i ddefnyddio’r cynlluniwr hefyd!
  • Her ‘High-five’ y dydd - Rydym ni’n gwybod bod pawb yn hoffi ychydig bach o gystadleuaeth, felly beth am herio eich teulu neu eich cyd-letywyr i weld pwy all fwyta o leiaf bum dogn o ffrwythau a llysiau'r dydd am wythnos neu fis? Byddai plant yn dwlu ar ‘high-five’ ar ddiwedd pob dydd y byddan nhw’n cyflawni hyn, a bydd gweld mam a dad yn cymryd rhan hefyd yn helpu i’w hysgogi nhw. Byddai ychydig o gymhelliant ychwanegol yn helpu hefyd, fel gwobr ar ddiwedd yr wythnos neu’r mis ar gyfer yr enillydd! Os ydych chi’n byw gyda chyd-letywyr, efallai y gallai’r sawl sy’n colli wneud pryd o fwyd i bawb arall?
  • Arwr gwastraff bwyd – gallech hefyd gynnal cystadleuaeth i weld pwy sy’n gwastraffu’r lleiaf o fwyd bwytadwy! Anogwch y plant i gymryd rhan a’i wneud yn hwyl, a chynnig gwobr ar y diwedd. Gallent fod yn greadigol a tynnu llun/paenitio siart i olrhain eich cynnydd.
  • Dysgwch y ffeithiau – Dysgwch fwy am fwyta’n iach ar gyfer eich teulu trwy fynd i wefannau fel Newid am Oes a Livewell. Mae llawer o deuluoedd eisoes yn ymweld â’r safleoedd hyn yn rheolaidd – ydych chi?
  • Hau’r hedyn - Dywedwch wrth eich ffrindiau a’ch teulu ynghylch beth rydych chi wedi’i ddysgu am fwyta’n iach a pham mae’n bwysig - efallai y cewch eich synnu ar yr ochr orau am faint o ddiddordeb fydd ganddynt yn y pwnc, a chyn lleied y bydd rhai ohonynt yn ei wybod. Meddyliwch am y gwahaniaeth y gallech ei wneud i’r bobl sydd o bwys i chi, trwy ddechrau’r sgwrs!
  • Peidiwch â phoeni am fwyd dros ben, wrth i chi geisio mynd ati. Bydd yn cymryd ychydig o amser i ailaddasu meintiau eich dognau dyddiol, felly byddwch yn siŵr o gynhyrchu bwyd dros ben. Peidiwch â phoeni, mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud - ei rewi, ei gyfuno â chynhwysion eraill i greu pryd newydd y diwrnod canlynol, rhannu’r bwyd â’ch cymdogion, ac ati.

 

Cymraeg