Maer pen-cogydd Rachel Khoo yn rhannu ei hoff ryseitiau bwyd

Article Type
What To Do
Article Subcategory

Yn wreiddiol o Croydon, deffrodd Rachel Khoo un diwrnod a phenderfynodd fynd i’r afael â choginio bwyd Ffrengig, doed a ddel

"Yn wreiddiol o Croydon, deffrodd Rachel Khoo un diwrnod a phenderfynodd fynd i’r afael â choginio bwyd Ffrengig, doed a ddel. Er mwyn dysgu rhagor, symudodd Rachel i Baris, heb air o Ffrangeg a chofrestrodd gyda’r ysgol goginio byd enwog Le Cordon Bleu.

Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae hi’n byw a gweithio ym Mharis, yn coginio detholiad o seigiau Ffrengig clasurol o bob cwr o’r wlad ac yn rhoi gwedd ffres, newydd a modern iddyn nhw.

Mae Rachel hefyd yn rhedeg tŷ bwyta lleiaf Paris o’i fflat fechan: La petite cuisine à Paris, lle mae pen-cogyddion a phobl ar draws y byd wedi bwyta a chanmol y bwyd (gan gynnwys y New York Times).

Mae llyfr Rachel, The Little Paris Kitchen ar gael nawr i’w brynu mewn siopau llyfrau da. Mae’n dathlu'r gorau o goginio bwyd cartref Ffrengig mewn modd modern a hygyrch. Mae ei 120 rysáit yn amrywio o seigiau hawdd, bob dydd fel Omelette Pipérade i bicnic haf wrth y Seine. O 'goûter' (byrbrydau) prynhawn i brydau gyda ffrindiau a phwdinau blasus sy’n cynnwys y clasuron fel Crème brûlée a Tarte tatin.

Cymraeg