LFHW Mary Berry: seren sy'n dwlu ar fwyd ac sy'n caru bwyd dros ben | Love Food Hate Waste Wales

Mary Berry: seren sy'n dwlu ar fwyd ac sy'n caru bwyd dros ben

Article Type
Why Save Food
Article Subcategory

Dechreuodd Mary Berry, seren sy’n dwlu ar fwyd a chyflwynydd The Great British Bake Off, ei gyrfa fel golygydd bwyd y cylchgrawn Housewife ym 1966, ac ers hynny, mae wedi ysgrifennu dros 40 o lyfrau coginio ar fwyd cyflym gwirioneddol, prydau i’r teulu, gwahodd pobl i ginio, a’i hanwylyd, Aga.

 
Mae Mary wedi cyflwyno nifer o raglenni teledu, gan gynnwys y rhaglen hynod o boblogaidd ar y BBC, Bake Off, ac mae’n ymddangos yn rheolaidd ar raglenni teledu a radio. Mae ei chyngor a’i ryseitiau hawdd i’w dilyn yn hygyrch i gogyddion o bob gallu.
Mae arddull coginio Mary yn canolbwyntio ar y teulu, ac mae’n defnyddio cynhwysion ffres, felly mae’n rhaid iddi fod yn arbenigwr ar ddefnyddio bwyd dros ben.

Beth yw eich hoff bryd bwyd sy’n defnyddio bwyd dros ben?
Stwnsh llysiau wedi’u ffrio ar siâp cacennau pysgod, gydag wy, bacwn a saws Hollandaise.

Beth yw’r cyngor bwyd gorau y rhoddodd eich mam neu’ch mam-gu i chi?
Cyn meddwl am beth hoffech chi ei gael i swper, edrychwch yn yr oergell i weld beth sydd angen ei ddefnyddio.

Beth yw’r eitem bwyd fwyaf rhyfedd rydych chi’n ei rhewi a’i defnyddio’n hwyrach?
Cnau heb eu cregyn mewn bagiau unigol. Mae eu rhewi nhw yn atal y cnau rhag pydru.

Os oes yna un math o fwyd rydych chi o hyd yn ei daflu i ffwrdd – beth yw ef a pham?
Caws drewllyd.

Beth yw’ch cyngor gorau ar gyfer defnyddio bwyd dros ben yn eich oergell?
Rwy’n hoffi defnyddio pob darn o lysiau dros ben, wedi’u torri’n ddarnau mân. Ychwanegwch ham wedi’i dorri ac arllwyswch saws caws a mwstard dros y cymysgedd cyn ei goginio yn y ffwrn tan ei fod yn euraid.

Mae teulu arferol gyda phlant yn gwastraffu hyd at £700 y flwyddyn ar fwyd sy’n cael ei daflu i ffwrdd. Beth fyddech chi’n gwneud gyda’r arian hwn?
Ar blanhigion i’r ardd. Un ai fy ngardd gegin neu ar blanhigion dŵr i’r pwll dŵr.

Pa fath o fwyd na fydd eich wyrion yn ei fwyta gan amlaf?
Nid yw fy wyrion yn hoffi planhigyn wy.

Sut ydych chi’n annog eich wyrion i fwyta popeth rydych chi’n ei weini iddyn nhw?
Rwy’n annog fy wyrion i fwyta trwy weini pethau mewn ffyrdd a siapiau gwahanol.

Beth yw’r un rysait rydych chi wedi ei rhannu gyda’ch plant a pham?
Mae fy mhlant i wedi tyfu i fyny ond rwyf wedi dysgu pwysigrwydd cinio dydd Sul iddyn nhw, oherwydd ei fod yn draddodiad sy’n dod â’r teulu’n agosach.

Beth yw eich hoff lyfr coginio a pham?
The Times Cookbook gan Katie Stewart. Cydweithiais gyda Katie yn gynnar yn ystod fy ngyrfa ac rwy’n mwynhau ei ryseitiau yn fawr.

Os byddech chi ar eich pen eich hun ar ynys bell, beth fyddai’r un pryd o fwyd fyddech chi’n dymuno ei gael?
Wyau ffres, tost a Marmite.

Chwant rhywbeth sawrus? Cymerwch gipolwg ar ein ryseitiau blasus ar gyfer bwyd dros ben

Wedi cael eich ysbrydoli i gynnal eich bake-off eich hun? Cymerwch gipolwg ar ein ryseitiau gwych ar gyfer cacennau

Darganfyddwch fwy o awgrymiadau da i ddefnyddio bwyd dros ben

Cymraeg