Mae’r ffordd yr ydym yn ymdrin â bwyd yn y DU yn cael effaith sy’n cael ei deimlo ledled y byd. Rydym yn byw mewn cymuned fyd-eang lle mae’r hyn a wnawn yn effeithio ar bobl mewn llawer o wledydd eraill. Felly mae arbed bwyd yn gyfrifoldeb ar bawb, a gallwn i gyd wneud llawer o bethau bychain bob dydd i greu gwahaniaeth mawr.
Milltiroedd a milltiroedd bwyd
Mae bwydo pobl Prydain yn fusnes mawr. O’r caeau llysiau yn Swydd Norfolk i derfynell cludo nwyddau ar awyrennau yn Heathrow, mae’n gymhleth ac yn gysylltiedig. Mae’n debyg y daw’r ffa gwyrdd ar eich plât o Kenya ac mae’ch grawnwin wedi eu hedfan o Wlad Groeg neu’r Aifft. Mae’r holl drefn o dyfu, gwneud, dosbarthu, storio a choginio ein bwyd yn defnyddio llawer o ynni, tanwydd a dŵr.
Gweld y tu hwnt i’r bin
Dim ond rhan o’r stori yw mynd ‘o’r pridd i’r plât’: mae’n cyfrif am ran fechan iawn o effaith eich bwyd. Mae’r hyn sy’n digwydd i fwyd sy’n weddill adael eich plât yr un mor bwysig.
Mae’n demtasiwn meddwl bod ein gwastraff bwyd yn organig, y math sy’n dadelfennu yn ôl i’r pridd. Os ydych yn compostio crafion, plisg wyau a chalonnau afal i gyfoethogi eich gardd - ac yn bwyta popeth arall y gellir ei fwyta - yna mae hynny’n ddechrau gwych.
Ond nid dyna hanes llawer o’n gwastraff bwyd. Yn y DU, rydym yn taflu bron i gyfanswm o 1 miliwn tunnell o laeth, bara a thatws bob blwyddyn - dyna filiwn kilo. Mae’r rhan fwyaf ohono’n mynd yn syth i lawr y sinc neu i’ch safle tirlenwi lleol. Ac mae ein safleoedd tirlenwi’n araf lenwi gyda bwyd sy’n pydru lle gall gymryd nifer o flynyddoedd i ddiraddio’n llwyr.
Nid yn unig y mae cadw bwyd allan o safleoedd tirlenwi’n gwarchod gofod tirlenwi prin, mae’n helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr oherwydd mewn safleoedd tirlenwi, mae bacteria yn torri deunyddiau organig fel sbarion bwyd i lawr i gynhyrchu methan. Mae methan yn nwy tŷ gwydr cryf ac mae ei allu i gynhesu 21 gwaith yn fwy na charbon deuocsid. Wrth i ni geisio mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd byd-eang, os gallwn leihau allyriadau methan, bydd hynny’n help mawr - a bydd arbed bwyd yn chwarae rhan bwysig.
Siarad trwy ein het
Felly beth yw’r darlun mawr? Cymerwch gam yn ôl ac fe welwch chi. Bydd cadw ein bwyd allan o’r bin yn helpu i leihau ein cynhyrchiant o nwyon tŷ gwydr peryglus - y nwyon sy’n peri i’n blaned gynhesu.
Yma yn y DU, os bydd pob un ohonom yn cydweithio i ddefnyddio ein holl fwyd da, yn hytrach na’i daflu, rydym yn amcangyfrif y bydd yn arbed dros 22 miliwn tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn. Mae’n anodd dychmygu nwy anweledig, felly dychmygwch beth yw effaith tynnu 1 o bob 4 car oddi ar y ffordd pob un diwrnod. Hinsawdd fwy sefydlog a llai o ddifodiant anifeiliaid yn ein hoes … Mae arbed bwyd yn golygu y byddwch chi’n gwneud cyfraniad at etifeddiaeth well am genedlaethau i ddod.