LFHW Pobi! Syniadau, triciau a thwyllo | Love Food Hate Waste Wales

Pobi! Syniadau, triciau a thwyllo

Article Type
What To Do
Article Subcategory

Mae hi’n werth gwirio beth sydd gennych, sydd werth ei addasu cyn i chi brynu stoc newydd, er enghraifft, gall siwgr arferol weithio cystal â siwgr castor.

Efallai bod blwyddyn ers i chi wneud cynnyrch ar gyfer calan gaeaf – ond efallai bod lliw bwyd llachar yn dal yn y cwpwrdd a gallwch ei ddefnyddio?

Os yw amser yn brin, prynwch gacen blaen neu fisgedi plaen a defnyddiwch eich cynhwysion – hyd yn oed os nad oes llawer yno – i addurno neu i ychwanegu llenwadau, blasau a lliwiau mwy diddorol.

Does dim byd yn bod ar ddefnyddio toes parod felly os oes lle yn eich rhewgell am becyn o does crwst brau, pwff neu filo, gall fod yn ddefnyddiol iawn wrth ddarparu danteithion melys neu sawrus wedi eu pobi’n gyflym.

Mae casys parod ar gyfer toes a seiliau fflan sbwng hefyd yn para’n dda ac yn ddefnyddiol i’w cadw wrth gefn hyn y cwpwrdd. Gall toes fod yn gaead, gorchudd neu sylfaen i weddillion sydd wedi eu trawsnewid, er enghraifft:

  • Toes filo – defnyddiwch hwn i orchuddio llysiau sydd wedi eu coginio, sydd dros ben a/neu gig sydd wedi cael ei sawru gan bâst cyri i wneud samosas cartref, neu rhowch haenau o ffrwythau wedi sychu, cnau a mêl i wneud baklava.
  • Mae unrhyw fath o does yn gallu mynd ar ben llysiau sydd dros ben gyda saws caws neu gaserol cig.
  • Gallwch daenu saws pesto neu domato dros haenen o does pwff a gosod pupur, corbwmpen a chaws drosto, neu ar gyfer danteithion melys ychwanegwch haenen o siwgr a chnau wedi eu malu a gosodwch ffrwythau mewn tun neu ffrwythau ffres fel gellyg drosto.

Mae cymysgedd mewn pecyn yn dda i’w gael wrth gefn – ond gallwch hefyd wneud eich bwyd sylfaenol eich hun ac yna ychwanegu eich blasau arbennig eich hunain.

Wedi cymysgu’r menyn a’r blawd a’u troi’n friwsion bara, ychwanegwch unrhyw gynhwysion sych eraill ar gyfer sgonau, toes neu haen uchaf crymbl, a rhewi'r cymysgedd tan eich bod eu hangen.

Cymraeg