Y newyddion da, hyd yn oed i bobwyr achlysurol, yw bod gan lawer o gynhwysion fywyd silff hir ac maent yn iawn i’w defnyddio hyd yn oed wedi’r dyddiad sydd wedi ei roi – bydd blawd, siwgr, cynhwysion codi, blasau, sudd, triog a sawl math o ffrwythau, cnau a sbeisys yn para am amser hir yn eich cypyrddau.
- Os yw triog, mêl neu sudd wedi ei grisialu, gall eu hail-gynhesu’n ysgafn drwy osod y pot mewn dŵr poeth eu meddalu ddigon i’w tynnu allan gyda llwy.
- Mae siwgr yn mynd yn galed os yw’n mynd yn llaith felly gall ei ailgynhesu yn y meicrodon mewn powlen wedi ei gorchuddio â phapur cegin i amsugno’r gwlybaniaeth ei helpu i sychu.
- Mae sbeisys a pherlysiau yn aml yn para am flynyddoedd yn y rac sbeisys ac yn iawn i’w defnyddio ond efallai y bydd angen defnyddio, mwy am fod dwyster y blasau yn lleihau gydag amser.
- Gall tybiau o fraster coginio gael eu gwthio i gefn yr oergell a’u hanghofio ond fe allwch chi eu rhewi fel nad ydynt yn dirywio.
- Mae hanfodion pobi eraill sy’n defnyddio menyn yn rhewi’n dda hefyd, fel eisin hufen menyn, felly os yw hwn yn rhywbeth yr ydych yn ei ddefnyddio’n aml i orchuddio cacen, gallwch wneud llwythi drwy guro braster i mewn i ddwywaith gymaint o siwgr eisin, ychwanegu blas fanila a’i rewi tan ei fod angen arnoch. Gallwch newid y blas sylfaenol drwy ychwanegu cynhwysion eraill yn ôl yr angen.
- Bydd cynhwysion sych yn para amser hir ond eu bod yn cael eu cadw mewn pecynnau heb aer neu eu selio mewn bag gyda chlip.
- Cadwch lygad ar yr hanfodion pobi yna: wyau. Wedi iddynt basio’u dyddiad gallwch chi wahanu’r melynwy a’r gwyn a’u rhewi. Gall y melynwy gyfoethogi omelettes, eu defnyddio fel sglein neu eu defnyddio i wneud ceuled lemon, ac mae’r gwyn yn dda ar gyfer meringues.
- Mae pecynnau o gynnyrch wedi ei bobi nad ydynt wedi eu hagor yn para’n hir (a gallwch eu bwyta wedi’r dyddiad) felly os nad ydych wedi eu hagor – peidiwch â’u rhoi yn y bin – cadwch nhw tan y tro nesaf.
- Mae cacennau cartref a chynnyrch sydd wedi ei bobi yn aml yn rhewi’n dda – er enghraifft cacennau (oni bai am rai â hufen ffres). Mae pastai a thartennau yn rhewi’n dda mewn sleisys sydd wedi eu gorchuddio’n dda ac yn dadrewi’n gyflym.
- Gellir adnewyddu bisgedi sydd wedi meddalu mewn ffwrn tymheredd isel i fod yn ysgubol unwaith eto!