LFHW Ciniawau yn ôl yn y gwaith – rhan 2… | Love Food Hate Waste Wales

Ciniawau yn ôl yn y gwaith – rhan 2…

Article Type
Save Money
What To Do
Article Subcategory

Mae cael cinio blasus i edrych ymlaen ato yn ein cynnal ni trwy gyfarfodydd hir, ac ymdrin â chleientiaid anodd, ond a bod yn ymarferol, mae angen iddo fod yn hawdd i’w gludo a’i fwyta. Ar ôl i chi dderbyn y syniad o fwyta mwy o fwyd dros ben amser cinio, mae’n siwr o fod yn werth treulio ychydig o’r arian y byddwch yn ei arbed (wrth beidio â phrynu cinio bob dydd a thrwy beidio â gwastraffu bwyd) ar gynwysyddion na fydd yn gollwng wrth eu cludo.

Os oes angen dwyn perswâd arnoch o hyd ynghylch bwyta bwyd dros ben amser cinio, cadwch eich hoff bowlen a chyllell a fforc priodol yn nrôr eich desg. Mae’n brafiach na bwyta â fforc blastig!

Os oes gan eich gweithle oergell a microdon, mae mwy o ddewis. Mae’n siwr y gallwch storio eich hoff ddresins salad neu sawsiau, i arbed gorfod mynd â nhw i'r gwaith gyda chi bob dydd. Os byddwch yn ailgynhesu cyri a reis y noson gynt, peidiwch ag anghofio bod angen ailgynhesu reis yn dda iawn, hyd nes ei fod yn chwilboeth. Os byddwch yn bwyta reis yn oer gyda salad, dylech ei fwyta o fewn 24 awr.

Gallwch wneud cawl poeth neu oer allan o bob math o fwydydd dros ben, ac ni all llawer o bethau fynd o’i le. Os ydych chi’n hoffi cawl cartref, gwiriwch ein ryseitiau i gael ysbrydoliaeth - mae un ar gyfer letys dros ben hyd yn oed! Mae angen rhywbeth ychydig yn grensiog i gyd-fynd â chinio hylif, ond nid oes rhaid i groutons fod yn sgwâr nac wedi’u gwneud o fara gwyn wedi’i sleisio chwaith. Gall darnau o fara garlleg dros ben wedi’u tostio (yn enwedig darnau pen baguette, sy’n llai poblogaidd), neu bydd bara naan dros ben wedi’i dostio yn gweithio cystal, ac yn fwy blasus.

Os byddwch chi’n llygadu eich bwyd dros ben gyda syniad am ginio mewn golwg, cofiwch mai dogn bach yn unig sydd ei angen arnoch i wneud llenwad brechdan digonol. Mae cymysgu hoff saws neu ddip o fyrbrydau blaenorol yn ychwanegu blas a hefyd yn atal y llenwad rhag cwympo allan, fel salsa, llond llwy o bysgod mwg wedi’i gymysgu â menyn, cymysgedd o gaws dros ben wedi’i gratio, a’i gymysgu gyda dip cennin syfi.

Cymraeg