LFHW Ciniawau yn ôl yn y gwaith – rhan 1… | Love Food Hate Waste Wales

Ciniawau yn ôl yn y gwaith – rhan 1…

Article Type
Save Money
What To Do
Article Subcategory

Gall llunio cynllun prydau bras ar gyfer rhai diwrnodau ymlaen llaw eich helpu chi i weld sut y gall ychydig bach o gynllunio doeth ddarparu sylfaen ar gyfer cinio’r diwrnod wedyn. Oherwydd bywydau prysur, mae cinio’n aml yn bryd ysgafnach, felly mae’n werth gofyn i chi eich hun, trwy goginio ychydig bach yn fwy ar gyfer eich pryd gyda’r nos, a allai ddarparu cinio syml ar gyfer y diwrnod nesaf? Er enghraifft, mae reis (plaen neu â blas), pasta a grawn eraill fel gwenith bulgur, couscous, neu datws wedi’u berwi, yn wych ar gyfer cinio o fwyd dros ben, oherwydd y gall ychydig bach o berlysiau ffres, dail salad, a dresin blasus efallai, ei droi’n bryd amser cinio gwahanol iawn i’r un y gwnaethoch ei goginio’r noson gynt. Gall hyd yn oed sawl llwyaid o gaserol neu stiw cig gael ei flendio gan ddefnyddio blendiwr llaw, ac ychwanegu ychydig o stoc ato i wneud cawl cig blasus, ysgafnach. Gallwch wneud yr un peth gyda llysiau dos ben, p’un ai a ydynt wedi cael eu berwi neu eu rhostio, bydd y ddau’n iawn. Mae’n gynt ac yn haws na’i wneud yn ffres - mae’r gwaith caled wedi cael ei wneud y diwrnod blaenorol, ac mae cymaint yn rhatach na’i brynu’n ffres neu mewn tun. Os oes gennych chi ychydig bach mwy o amser, mae crwst yn rhoi bywyd newydd i fwyd dros ben, ac yn gwneud iddyn nhw fynd ychydig ymhellach, yn ogystal â darparu ffordd hawdd i fynd â nhw i’r gwaith neu’r ysgol. Mae quiche neu bastai cinio rhost dros ben yn enghraifft dda. A gallwch rewi’r rhain yn unigol neu fel tafelli, yn barod ar gyfer pan fyddwch chi angen cinio cyflym arnoch chi, heb amser i wneud brechdanau.

Cymraeg