Bwyta’r cyfan, dyna yw cyflawni
YMUNWCH Â’R CHWYLDRO CYFLAWNI
Mae’n hawdd cyflawni. Y nod yw bwyta’r cynhwysyn neu’r bwyd cyflawn, heb wastraffu’r darnau bwytadwy o gwbl.
Cael y gwerth gorau o’r bwyd a brynwch. Manteisio i’r eithaf ar y maeth yn eich bwyd. Arbed trafferth trwy osgoi plicio, a datgloi potensial blasus dros ben.
Mae cyflawni hefyd yn lleihau gwastraff bwyd, felly mae’r blaned yn elwa cymaint â chi.
Felly, ymunwch â’r chwyldro, gallwch fwyta’n iach ac ymfalchïo mewn cyflawni eich bwyd.
Wyddoch chi?
Mae un traean o’r bwyd a gynhyrchir yn fyd‐eang yn cael ei wastraffu. Mae hyn yn broblem enfawr sy’n effeithio arnom yn ariannol, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol. Yn y Deyrnas Unedig, caiff 10 miliwn o dunelli o fwyd ei wastraffu bob blwyddyn, ac mae tua 70% o hwnnw’n dod o’n cartrefi. Mae hyn yn golygu bod cyfle enfawr
i ni fel unigolion wneud gwahaniaeth cadarnhaol a lleihau’r bwyd a wastraffwn yn ein cartrefi.
Mae’n syndod credu mai ein dewisiadau o ddydd i ddydd sy’n gyfrifol am lawer iawn o wastraff bwyd, gan fod nifer ohonom yn dewis anwybyddu crwyn, dail, coesynnau a chrystiau ein hoff fwydydd.
Chwaraewch eich rhan. Bwyta’r cyfan, dyna yw Cyflawni.
EICH CANLLAW CYFLAWNI
PAM DDYLWN I GYFLAWNI GYDA BWYD?
Rydyn ni oll wedi taflu’r coesynnau i ffwrdd, wedi anghofio’r plicion, wedi cefnu ar y crystiau. Felly pam mae’n bwysig i ni gyflawni ein bwyd yn hytrach na thaflu rhai darnau?
Pan na chaiff y bwyd a gafodd ei dyfu a’i gynhyrchu ar ein cyfer ei fwyta, mae’r holl adnoddau a roddwyd i’r broses o ddod â’r bwyd hwnnw at ein platiau – tir, dŵr ac ynni, yn cael eu gwastraffu hefyd.
Mae hyn wedi effeithio’n enbyd ar ein hamgylchedd, gan y gallai’r adnoddau hynny fod wedi’u defnyddio i wneud rhywbeth arall, neu eu harbed yn gyfan gwbl, i leihau ein heffaith ar y blaned.
Chwaraewch eich rhan. Bwyta’r cyfan, dyna yw Cyflawni.
Cofiwch: Y peth gorau y gallwn oll ei wneud yw sicrhau bod y bwyd sy’n cyrraedd ein platiau yn cael ei fwynhau. Gall unrhyw beth na ellir ei gyflawni (go brin y bydd plisg wyau, bagiau te a chrwyn bananas fyth ar eich bwydlen...) gael ei gompostio, neu ei ailgylchu os oes gennych wasanaeth casglu ac ailgylchu gwastraff bwyd yn eich ardal.
Erthyglau Cysylltiedig
-
Mae Darparwyr Dan Bwysau yn aml yn ymwybodol o iechyd ac yn pryderu am yr amgylchedd, ond oherwydd llawer o alw gwahanol ar eu hamser a’u hegni, nid oes ganddyn nhw’r gallu i wneud popeth maen nhw’n gwybod y gallan nhw ei wneud i leihau faint o fwyd maen nhw’n ei daflu. Dylech ganolbwyntio ar beth y gallwch chi ei wneud, nid beth na allwch chi ei wneud, a byddwch yn gweld gwahaniaeth mawr yn eich poced a bydd yn gwneud gwahaniaeth i’r amgylchedd hefyd.
-
8 bwyd na wyddoch chi y gallwch eu cyflawni. Ein sialens i chi – rhowch gynnig arnynt!
Ryseitiau Cysylltiedig
-
Yn ginio sydyn neu’n swper i un, dyma bryd blasus sy’n defnyddio cyw iâr (neu gig arall) sydd dros ben, ac yn lleihau’r gwaith golchi llestri!
-
Mae’r rysáit hon gan Albert Bartlett ar ei gorau gyda thatws sy’n gweddu i goginio cyffredinol. Os defnyddiwch datws blodiog fel Rooster, gallwch eu berwi mewn dŵr oer a’u ffrwtian yn ysgafn i’w hatal rhag torri’n ddarnau.