LFHW Alla’ i rewi reis? A chwestiynau cyffredin eraill | Love Food Hate Waste Wales

Alla’ i rewi reis? A chwestiynau cyffredin eraill

Catrin Bates
Article Type
Save Money
Love Food
Hate Waste
Article Subcategory

Alla’ i rewi reis? Gallwch! Os caiff ei oeri’n sydyn. Rhowch eich cynhwysydd o reis mewn dŵr oer a’i rewi unwaith bydd wedi oeri. O fewn awr, yn ddelfrydol. Rhowch ef mewn cynhwysydd aerdyn a’i labelu gan nodi ei gynnwys, maint y dogn a’r dyddiad. Gallwch storio reis yn y rhewgell am 3 mis neu yn yr oergell am 24 awr. Y ffordd orau o ddadrewi reis yw yn yr oergell. Wedi iddo ddadrewi, defnyddiwch y reis o fewn 24 awr. Neu gallwch ei ddadrewi yn y microdon ar y gosodiad ‘dadrewi’ yn syth cyn ei ddefnyddio. Dylech ei aildwymo yn y ffwrn neu’r microdon nes bydd yn chwilboeth. Dim ond unwaith y gellir aildwymo reis. Nid ydym yn argymell aildwymo reis o bryd tecawê gan ei bod yn bosibl ei fod wedi’i goginio ymlaen llaw a’i aildwymo cyn cael ei weini i chi. Cyngor defnyddiol yw coginio dognau cywir o reis yn y lle cyntaf! Mae un llond mwg o reis amrwd yn ddigon i bedwar oedolyn. Neu tua 75g fesul person. Pa fwydydd alla’ i eu rhewi? Fe fuasech chi’n synnu cymaint o fwydydd mae’n bosibl eu rhewi!

Cig, pysgod, bara, caws, llaeth, hufen, wyau, teisennau, cnau, ffa, reis, pasta, perlysiau, ffrwythau, llysiau... mae’r rhestr yn un faith! A dyma rai o’n hoff haciau rhewi:

  • Malwch grystiau bara neu dafelli o hen fara i greu briwsion. Rhowch nhw mewn cynhwysydd, eu labelu a’u rhewi i ddefnyddio rywdro eto. Defnyddiwch y rhain fel topin crymbl neu basta pob, ei ychwanegu at stwffin, neu i dewychu sawsiau.
  • Rhewch berlysiau wedi’u torri mewn potyn ciwbiau rhew, wedi’u gorchuddio gyda dŵr. Unwaith byddan nhw wedi rhewi, gellir tynnu’r ciwbiau o’r potyn a’u gosod mewn bag ailddefnyddiadwy fel ffordd hawdd o’u storio. Gallwch eu hychwanegu wedi’u rhewi at gaserolau, lobsgóws a sawsiau.
  • Gellir rhewi caws fel bloc neu wedi’i gratio yn y rhewgell am hyd at 6 mis. Dylid ei ddadrewi yn yr oergell. Perffaith ar gyfer caws ar dost, ei ychwanegu at omlet, neu fel topin ar eich pizza neu basta pob.
  • Gellir rhewi bwyd wedi’i becynnu hyd nes y dyddiad Defnyddio Erbyn. Mae’r rhewgell yn gyfaill da i chi wrth ichi wneud i’ch bwyd bara’n hirach. Cofiwch labelu popeth yn glir gan nodi’r cynnwys, meintiau’r dognau a’r dyddiad cyn eu rhewi. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y dyddiadau Defnyddio erbyn ac Ar ei Orau Cyn? Mae dyddiadau Defnyddio Erbyn yn ymwneud â diogelwch. Dyma’r dyddiad pwysicaf i’w gofio. Gellir bwyta bwyd hyd at ac ar y dyddiad Defnyddio Erbyn, ond nid wedyn. Mae’r dyddiad Ar ei Orau Cyn yn ymwneud ag ansawdd. Bydd bwyd yn ddiogel i’w fwyta ar ôl y dyddiad hwn, ond efallai na fydd ar ei orau. Gallwch ddyfarnu drosoch eich hunan. Gallwch ddarllen mwy am wneud synnwyr o labeli dyddiadau yma. Sut alla’ i rewi wyau?
  • Craciwch nhw mewn i gynhwysydd a’u curo • Ystyriwch eu rhannu fesul dogn os oes gennych fwy na chwpl o wyau i’w rhewi
  • Seliwch a labelwch y cynhwysydd gan nodi’r cynnwys, y nifer o wyau a’r dyddiad
  • Rhowch nhw yn y rhewgell! Gallwch hefyd rewi’r gwynwy a’r melynwy ar wahân os dymunwch. Cyngor defnyddiol yw blendio’r melynwy ac ychwanegu ychydig o siwgr neu halen (i’w hatal rhag mynd yn ludiog) cyn eu rhewi. Beth yw’r ffordd orau o rewi a dadrewi cig? Gellir rhewi cig amrwd a chig wedi’i goginio. Dyma ambell ddarn o gyngor:
  • Gellir rhewi cig amrwd hyd at ac ar y dyddiad Defnyddio Erbyn, ond nid wedyn.
  • Gallwch rewi cig yn ei becyn gwreiddiol (heb ei agor), ond gall fod yn ddefnyddiol agor a gwahanu’r cig er mwyn ichi allu dadrewi dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch. Cofiwch labelu a dyddio pob dogn cyn eu rhewi.
  • Ar gyfer cig wedi’i goginio, lapiwch ef yn dda a’i rewi mewn cynhwysydd aerdyn. Cofiwch labelu a dyddio’r cig yn gyntaf. • Gall fod yn ddefnyddiol torri cig wedi’i goginio cyn ei rewi i’w wneud yn gynt i’w ddadrewi ac yn haws wrth ei goginio.
  • Gellir storio cig yn y rhewgell am hyd at 6 mis. Peidiwch â dadrewi cig ar dymheredd ystafell. Dylid ei ddadrewi’n llwyr yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn 24 awr. Neu gallwch ei ddadrewi yn y microdon ar y gosodiad ‘dadrewi’ yn syth cyn ei ddefnyddio. Dim ond unwaith y dylid aildwymo cig a gafodd ei goginio a’i rewi o’r blaen. Mae’r cyngor uchod yn berthnasol ar gyfer pob math o gig a dofednod a rhai mathau o bysgod. Ond gwiriwch y pecyn yn gyntaf gan ei bod yn bosibl fod cig neu bysgod wedi cael eu rhewi o’r blaen.

Sut ydw i’n gwybod bod fy ffrwythau a llysiau’n dal i fod yn iawn i’w bwyta? Pupurau crychlyd? Popeth yn iawn. Darnau gwyrdd ac egin ar datws? Tynnwch y darnau hynny a defnyddio’r gweddill. Moron sy’n plygu?! Ydyn, maen nhw’n iawn i’w bwyta. Os oes gennych chi ffrwythau a llysiau sydd wedi mynd braidd yn feddal neu grebachlyd, maen nhw’n iawn i’w bwyta o hyd. Cyn belled nag oes arwyddion gweladwy o lwydo neu bydru. Mae ffrwythau goraeddfed fel bananas brown ac aeron meddal yn berffaith ar gyfer coginio neu i wneud smwddi blasus. A gellir defnyddio llysiau mewn sawsiau a chawl. Ewch i bori ein hadran rysetiau am fwy o syniadau ac ysbrydoliaeth! Heblaw am binafalau heb eu torri, bananas a winwns; y lle gorau i gadw ffrwythau a llysiau yw yn yr oergell. Bydd hyn yn gwneud iddyn nhw gadw’n ffres yn hirach. Dylid gosod yr oergell ar dymheredd is na 5°C. Defnyddiwch ein hadnodd Oeri’r Oergell i wirio gosodiadau eich oergell. A chofiwch fod ffordd o rewi bron pob math o ffrwythau a llysiau.

Cymraeg