LFHW Gweini'r dogn cywir, bob amser bwyd | Love Food Hate Waste Wales

Gweini'r dogn cywir, bob amser bwyd

Article Type
Love Food
Hate Waste
Article Subcategory

Y prif gorff

Fel y dywed y dywediad, mae ychydig o wybodaeth ym mynd ymhell, ac mae hyn yn bendant yn wir am fyw bywyd iachach. Bydd gweini dogn maint cywir, o’r bwyd cywir, bob amser bwyd, o fudd i chi a’ch teulu cyfan am nifer o resymau gwahanol:

  • Byddwch chi a’ch teulu yn byw’n iachach, trwy fwyta beth sydd ei angen arnoch bob dydd yn unig, trwy brydau cytbwys, iach;
  • Ni fyddwch yn gwario cymaint o arian trwy brynu beth sydd ei angen arnoch yn unig; a
  • Byddwch yn lleihau gwastraff bwyd, trwy brynu, paratoi, coginio a gweini beth rydych chi’n gwybod y byddwch yn ei fwyta.

Byw’n iach

Mae bwyta gormod yn effeithio ar y ffordd rydym ni’n byw ein bywydau. Mae cyfraddau gordewdra yn parhau i fod yn rhy uchel yn y DU, ar gyfer oedolion a phlant, a all effeithio’n ddifrifol ar ein hiechyd (Ffynhonnell: gov.uk):

  • Mae bron traean o blant rhwng 2 a 15 oed yn ordrwm neu’n ordew; ac
  • Mae 27% o oedolion yn ordew, a 36% arall yn ordrwm.

Beth fyddech chi’n dewis ei wneud? – Cymryd cyfrifoldeb dros eich iechyd eich hun trwy fwyta’r dognau cywir amser bwyd, a bod yn fwy egnïol yn ddyddiol, neu anwybyddu’r dystiolaeth a’r cyngor, trwy barhau i wneud beth rydych chi bob amser wedi bod yn ei wneud, a dyfalu yn lle?

Mae’r Cynlluniwr Dognau Bob Dydd yn cael gwared ar ddyfalu ac yn ei gwneud hi’n gyflym, yn syml ac yn hawdd i chi weithio allan faint o fwyd sydd angen i chi ei brynu a’i baratoi.

Nid yw newid bob amser yn hawdd, ond os ydych chi’n gwybod y gall gael effaith gadarnhaol ar eich bywyd chi a’ch anwyliaid - onid yw’n werth rhoi cynnig arni?

 

Un cam ar y tro

Mae dysgu mwy am faint o bob grŵp bwyd y dylech ei fwyta bib dydd yn fan cychwyn gwych, a bydd cymryd cipolwg ar yr Canllaw Bwyta’n Dda ar wefan y GIG, yn eich helpu chi i ddechrau arni. Mae’r wybodaeth yn hawdd i’w dilyn ac mae’r canllaw yn cynnwys elfen ryngweithiol i’ch helpu i archwilio pob grŵp bwyd yn fanylach.

Dyma rai o’r prif uchafbwyntiau i godi archwaeth arnoch am fwy:

  • Ffrwythau a llysiau – Dylech fwyta o leiaf bum dogn o ffrwythau a llysiau amrywiol bob dydd. Gallant fod yn ffres, wedi’u rhewi, mewn tun, yn sych neu fel sudd.
  • Carbohydradau startsh – Dylech seilio prydau ar datws, bara, reis, pasta neu garbohydradau startsh eraill – dewiswch rawn cyflawn, os yw’n bosibl.
  • Cynhyrchion llaeth neu gynhyrchion llaeth amgen - Mae bwydydd fel llaeth, caws ac iogwrt yn ffynonellau da o brotein, sydd ei angen i dyfu ac adfer ein cyrff. Maen nhw hefyd yn ffynonellau da o galsiwm, sy’n helpu ein hesgyrn i barhau’n gryf. Cadwch lygad ar lefelau braster a siwgr - darllenwch y pecynnau gan y byddech yn cael eich synnu faint o siwgr, yn arbennig, sydd mewn rhai bwydydd penodol.
  • Ffynonellau eraill o brotein - Mae ffa, corbys, pysgod, wyau, cig a chynhyrchion bwyd eraill yn lle cig hefyd yn ffynonellau da o brotein, fitaminau a mwynau. Mae bwydydd fel ffa, pys a ffacbys yn ddewisiadau eraill da yn lle cig; hefyd, maen nhw’n is o ran braster, ac yn uwch o ran ffibr a phrotein. Dewiswch olwythion heb lawer o fraster, a bwytewch lai o gigoedd coch a chigoedd wedi’u prosesu. Ychydig bach o brotein sydd ei angen arnom bob dydd, felly gwiriwch y maint cywir ar gyfer aelodau o’ch teulu cyn i chi gynllunio eich prydau.
  • Olewau – maen nhw’n hanfodol i’n dietau gan eu bod nhw’n cadw ein celloedd yn iach. Mae olewau’n cynnwys swm uchel o egni (calorïau) felly dylech eu bwyta nhw mewn meintiau bach iawn. Dewiswch olewau a menyn taenu annirlawn.
  • Lleihau cymeriant halen a siwgr – gwiriwch y wybodaeth ar becynnau bwyd. Dylent ddangos faint o halen a siwgr sydd yn y bwyd rydych chi eisiau ei brynu, a chymharwch bob brand – efallai y cewch eich synnu faint sydd yn eich hoff fwydydd bob dydd.
  • Yfwch chwech i wyth gwydraid o ddŵr y dydd!

Canllaw Bwyta’n Dda

Offer mesur meintiau parod

Yn ogystal â’r mesuriadau eraill rydym ni wedi’u darparu yn y Cynlluniwr Dognau Bob Dydd, gallwch hefyd brynu pethau i wneud mesur bwyd yn gyflym ac yn hawdd, fel cwpanau a llwyau mesur sy’n offer meintiau parod tebyg i sgŵp, ar gyfer un cwpan, hanner cwpan, ac ati. Mae rhai llyfrau ryseitiau yn cynnwys y mesuriadau maint cwpan a maint llwy hyn, ond gallwch eu defnyddio nhw’n hawdd trwy wirio faint o fwyd penodol y mae pob offeryn mesur yn ei ddal e.e. ‘un cwpan’ o reis sych, yna marcio’r rhain mewn pensil ar bwys eich hoff ryseitiau yn eich llyfrau ryseitiau – yna, y tro nesaf, byddwch yn gallu gwneud y rysáit hyd yn oed yn gynt. Mae’r rhan fwyaf o’r siopau poblogaidd ar y stryd fawr ac ar-lein yn gwerthu’r offer hyn am bris rhesymol e.e. Marks and Spencer, Sainsbury’s, Lakeland a John Lewis.

Cymraeg