LFHW Pedair ffordd o ddefnyddio llaeth dros ben | Love Food Hate Waste Wales

Pedair ffordd o ddefnyddio llaeth dros ben

Article Type
What To Do
Article Subcategory

1. Oerwch

Gall llaeth dros ben o’r oergell neu’r rhewgell dynnu ychydig o’r gwres o gyri sbeislyd.

2. Cymysgwch

Ychwanegwch laeth i smwddi gyda mefus, mango, bananas... pa bynnag ffrwyth hoffech chi!

3. Coginiwch

Mae llaeth yn sylfaen da ar gyfer sawsiau o bob math. Oes gennych chi frocoli dros ben? Rhowch y brocoli mewn prosesydd bwyd gyda llaeth, ychwanegwch halen a phupur a’i gynhesu mewn sosban. Mae’n gwneud saws hufennog blasus i’w roi ar bysgod neu gyw iâr.

4. Ychwanegwch fwydydd dros ben

Nid ar gyfer eich grawnfwyd neu’ch disgled foreol yn unig y mae eich llaeth. Mae’n gynhwysyn cudd mewn llu o rysetiau – cyris, pasteiod, cawliau a smwddis di-ri. Dyma rai o’n ffefrynnau.

Mwy o rysetiau bwydydd dros ben...

Beth arall allaf ei wneud?

Prynwch hynny o laeth a wnewch ei ddefnyddio. Storiwch ef yn yr oergell ar y tymheredd iawn (0–5°C) a defnyddiwch bob diferyn!

Cymraeg