Storio cyw iâr yn iawn

Hoffi Bwyd Casau Gastraff
Article Type
What To Do
Article Subcategory

Mae’r cyngor hwn yn cyfrif ar gyfer twrci neu gig dofednod eraill, yn ogystal â chyw iâr.

 

Storio cyw iâr amrwd

Cadwch ef yn yr oergell – ar y silff waelod

Storiwch gyw iâr amrwd yn ei becyn gwreiddiol, ar silff waelod yr oergell. Sicrhewch fod y pecyn wedi’i selio’n iawn a chadwch ef ar wahân i fwydydd eraill a chigoedd wedi’u coginio.

Gwiriwch fod eich oergell wedi’i gosod i 0–5°C. Mae hyn yn cadw eich cyw iâr – a’r holl fwyd arall yn eich oergell – yn fwy ffres yn hirach.

Gallwch rewi cyw iâr!

Os nad ydych chi’n meddwl y gwnewch ei goginio mewn pryd, gallwch rewi cyw iâr heb ei goginio ar unrhyw adeg hyd at ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’. Rhowch y cyw iâr mewn cynhwysydd sy’n selio, neu ei lapio’n dda mewn bagiau rhewgell neu haenen lynu cyn ei rewi, i rwystro’r aer oer ei sychu. Ysgrifennwch y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ ar y cynhwysydd neu’r bag, ac felly pan fyddwch chi’n dadrewi’r cyw iâr, byddwch yn gwybod pa mor gyflym rydych angen ei goginio a’i fwyta.

Pan fyddwch yn barod i ddefnyddio’r cyw iâr, tynnwch ef o’r rhewgell a’i ddadrewi yn y microdon ar y gwres ‘dadrewi’, neu gallwch ei roi yn yr oergell dros nos. Mae’n bwysig gwneud yn siŵr nad oes darnau wedi rhewi na rhannau rhy oer yn y canol.

Unwaith y bydd wedi dadrewi, coginiwch ef o fewn 24 awr a’i gynhesu nes bydd yn chwilboeth drwyddo.

Storio cyw iâr wedi’i goginio

Silff uchaf yr oergell yw’r lle i gyw iâr wedi’i goginio

Os gwnaethoch chi goginio gormod o gyw iâr, neu os hoffech gadw cyw iâr dros ben at rywdro eto, dyma beth i’w wneud.

Ar ôl ei goginio, gadewch i’r cyw iâr oeri, ac o fewn dwyawr, lapiwch ef yn dda a’i roi ar silff uchaf eich oergell. Cadwch gyw iâr wedi’i goginio ar wahân i gig amrwd, a’i ddefnyddio o fewn deuddydd.

Gallwch ei fwyta’n oer mewn brechdanau neu salad, neu ei aildwymo nes bydd yn chwilboeth – mewn cyri, caserol neu gawl, efallai. (Dim ond unwaith y dylech ei aildwymo).

Gallwch rewi cyw iâr wedi’i goginio hefyd

Rhowch gyw iâr wedi’i goginio mewn cynhwysydd sy’n selio, neu lapiwch y bwyd yn dda mewn bagiau rhewgell neu haenen lynu cyn ei rewi. Labelwch ef i chi gael cofio beth sydd ynddo a pha bryd y gwnaethoch ei rewi, wedyn ei roi yn y rhewgell. Pan fyddwch yn barod i’w ddefnyddio, tynnwch ef o’r rhewgell a’i ddadrewi yn y microdon ar y gwres ‘dadrewi’, neu rhowch ef yn yr oergell dros nos. Mae’n bwysig gwneud yn siŵr nad oes darnau wedi rhewi na rhannau rhy oer yn y canol. Wedyn, gallwch ei aildwymo nes bydd yn chwilboeth drwyddo.

Ar ôl ei ddadrewi, gallwch droi’r cyw iâr a goginiwyd cyn ei rewi yn bryd newydd o fwyd, a’i rewi drachefn i’w fwyta rywdro eto.

Rysetiau cyw iâr

Cyw iâr wedi’i ffrio, cyw iâr rhost, neu gyw iâr plaen, ar ben ei hun neu mewn saig flasus – gallwch wneud pob math o bethau gyda chyw iâr. Dyma rai syniadau i’ch ysbrydoli i goginio pob tamaid.

Cymraeg