Storio tatws
Dewiswch rywle oer, tywyll ac awyrog i storio eich tatws – peidiwch â’u cadw yn yr oergell.
Mae tatws yn cadw’n ffres yn hirach o’u cadw yn eu pecyn gwreiddiol, neu mewn bag brethyn neu fag o ffibrau naturiol os yw’n well gennych.
Storiwch nhw ar wahân i fwydydd sydd ag aroglau cryf, fel winwns.
Cadwch datws wedi’u coginio yn yr oergell
P’un ai coginio gormod mewn camgymeriad wnaethoch chi, neu goginio tatws ychwanegol, storiwch nhw’n iawn i’w defnyddio rywdro eto.
Gadewch i’ch tatws oeri ar ôl eu coginio, a’u rhoi yn yr oergell o fewn dwy awr. Fe wnân nhw gadw am hyd at ddeuddydd yno.
Bwytewch nhw’n oer – gyda salad i ginio – neu gallwch eu haildwymo nes byddan nhw’n chwilboeth, yn y popty, y microdon, y badell ffrio neu o dan y gril – dewiswch chi!
Gallwch rewi tatws ar ôl eu coginio!
Rhowch y tatws ar hambwrdd – wedi’u gwahanu fel nad ydyn nhw’n cyffwrdd ei gilydd – a rhowch yr hambwrdd yn y rhewgell. Pan fydd y tatws wedi caledu, rhowch nhw mewn bag rhewgell neu dwbyn a’i selio. Mae hyn yn eu hatal rhag glynu at ei gilydd, i’ch galluogi i ddadrewi’r tatws fesul un yn ôl eich angen. Pan fyddwch yn barod i ddefnyddio eich tatws, tynnwch nhw o’r rhewgell a’u dadrewi yn y microdon neu gallwch eu rhoi yn yr oergell dros nos, cyn eu haildwymo nes byddan nhw’n chwilboeth.
Gallwch rewi tatws stwnsh hefyd. Gwahanwch nhw’n ddognau unigol a’u rhoi mewn bag rhewgell neu gynhwysydd â chaead. Cofiwch sicrhau ei fod wedi’i orchuddio’n iawn i’w atal rhag sychu yn y rhewgell.
Rysetiau tatws
Tatws stwnsh, tatws rhost, tatws melys, tatws poeth, salad tatws, tatws gratin... mae pob math o ffyrdd i fwynhau eich tatws!