LFHW MAE'R CWBL YN CYFRIF | Love Food Hate Waste Wales

MAE'R CWBL YN CYFRIF

Does dim tebyg i amser bwyd i’n helpu ni i fod yn greadigol a bod yng nghwmni’r bobl yr ydym yn eu caru. Mae arbed bwyd yn gwneud llawer mwy nag arbed arian yn unig ac mae pob tafell o fara, tatws a brest cyw iâr a arbedir yn gwneud gwahaniaeth. Mae’n dda i’n cymunedau, ein gwlad, a’n planed, yn ogystal â’n pocedi.

Yma yn y DU, mae miloedd ohonom eisoes yn gwneud ein rhan i ddefnyddio mwy o’r bwyd yr ydym yn ei brynu bob wythnos. Rhyngom, rydym yn arbed £3.4 biliwn y flwyddyn o’i gymharu â 2007, heb sôn am arbed 5.0 miliwn tunnell o CO2 – mae hynny’n gyfystyr a thynnu 2.2 miliwn o geir oddi ar y ffordd. Felly, mae cadw bwyd allan o’r bin yn creu gwahaniaeth.

Beth sydd nesaf? Sut mae’r cwbl yn cyfrif? A sut gallwn ni sicrhau yr ydym yn cydweithio i yrru newid hyd yn oed yn fwy? Edrychwch ar yr hyn mae pobl eraill yn ei wneud a meddyliwch am yr hyn y gallwch chi ei wneud i greu gwahaniaeth lle’r ydych yn byw – o’r bobl sy’n ymdrechu mwy, i’r ysgolion yn gwneud eu rhan yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd.

“Rhyngom, rydym yn arbed £3.4 biliwn y flwyddyn o’i gymharu â 2007.”


Erthyglau diweddaraf

  • Nid pawb sy’n hoff o fod yn gyntaf i godi i ddawnsio, ond heb i rywun fentro gyntaf, digon posib na fydd y parti’n dechrau o gwbl. Peidiwch â phoeni! Rydyn ni yma i helpu. Mae llawer o’ch hoff frandiau a dylanwadwyr ar Instagram ac YouTube eisoes yn mabwysiadu meddylfryd Cyflawni, gan eich ysbrydoli i fagu hyder wrth gyflawni gyda’ch bwyd.