Polisi Preifatrwydd

1. Datganiad o fwriad

O bryd i’w gilydd, bydd gennych gyfle i gyflwyno gwybodaeth bersonol amdanoch chi’ch hun (e.e. enw a chyfeiriad e-bost) er mwyn cael neu ddefnyddio gwasanaethau ar ein Gwefan.
Trwy gofnodi eich manylion yn y meysydd y gofynnir amdanynt, rydych chi’n galluogi WRAP i roi i chi’r gwasanaethau a ddewiswch. Pryd bynnag y byddwch yn darparu gwybodaeth bersonol o’r fath, byddwn yn trin y wybodaeth honno yn unol â’r polisi hwn. Mae ein gwasanaethau wedi’u cynllunio i roi i chi’r wybodaeth y byddwch am ei chael. Bydd WRAP yn gweithredu yn unol â deddfwriaeth bresennol ac yn anelu at fodloni arfer gorau presennol y Rhyngrwyd.

2. Gwybodaeth am ymwelwyr

Yn ystod unrhyw ymweliad â’n wefan, bydd y tudalennau rydych chi’n eu gweld, ynghyd â rhywbeth o’r enw cwci, yn cael eu llwytho i lawr i’ch cyfrifiadur (Gwelwch ein Polisi Cwcis am fwy ar hyn). Mae’r rhan fwyaf o wefannau, os nad pob un, yn gwneud hyn, gan fod cwcis yn caniatáu i gyhoeddwr y wefan wneud pethau defnyddiol fel darganfod a yw’r cyfrifiadur (a’i ddefnyddiwr, mae’n siŵr) wedi ymweld â’r safle o’r blaen. Mae hyn yn cael ei wneud ar ailymweliad trwy wirio i weld a dod o hyd i’r cwci a adawyd yno ar yr ymweliad diwethaf.
Mae unrhyw wybodaeth sy’n cael ei darparu gan gwcis yn gallu’n helpu ni i roi gwasanaeth gwell i chi ac mae’n ein cynorthwyo ni i ddadansoddi proffil ein hymwelwyr. Er enghraifft, os yn ystod ymweliad blaenorol yr ydych yn mynd i, dyweder, y tudalennau Defnyddwyr, yna efallwn y byddwn yn gallu darganfod hyn gan eich cwci ac amlygu gwybodaeth berthnasol am eich ail ymweliad.

3. Cyflwyno gwybodaeth bersonol

Pan fyddwch yn cyflenwi unrhyw wybodaeth bersonol i WRAP (e.e. ar gyfer cofrestru) mae gennym ymrwymiadau cyfreithiol tuag atoch chi o ran y ffordd rydym ni’n delio â’r data hwnnw. Mae’n rhaid i ni gasglu’r wybodaeth yn deg, mae’n rhaid i ni roi gwybod i chi sut byddwn yn ei ddefnyddio, ac mae’n rhaid i ni ddweud wrthych chi ymlaen llaw os ydym am drosglwyddo’r wybodaeth i unrhyw un arall. Byddwn yn dal eich gwybodaeth bersonol ar ein systemau dim ond am y cyfnod y byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth y gofynnoch amdano, a byddwn yn cael gwared ar eich gwybodaeth bersonol os atebwyd y diben. Byddwn yn sicrhau bod pob gwybodaeth bersonol sy’n cael ei rhoi yn cael ei chadw’n ddiogel, yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.

4. Mynediad at eich gwybodaeth bersonol

Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth bersonol y mae WRAP yn ei chadw amdanoch chi a bod cywiriadau’n cael eu gwneud i unrhyw gamgymeriadau. Dylech gyfeirio ceisiadau i'r person sy'n gyfrifol am Diogelu Data (email: data.protection@wrap.org.uk).

5. Marchnata uniongyrchol ac arolygon o ddefnyddwyr

Wrth i wasanaethau WRAP ehangu, bydd mwy o gyfleoedd i ymestyn y gwasanaethau a ddarperir i chi. O bryd i’w gilydd, gallwn anfon manylion am wasanaethau a chynnyrch eraill atoch a allai fod o ddiddordeb i chi, a chynnig y cyfle i danysgrifio i nhw. Hefyd, mae’n bosibl y byddwn yn cynnig y cyfle i chi gymryd rhan mewn arolygon, sy’n cael eu cynnal gan WRAP neu ei asiantau/contractwyr, sy’n helpu ein hymchwil i’r mathau o wasanaeth rydym yn ei gynnig. Bydd WRAP yn cadw cofnod o wybodaeth a ddarperir gennych. Sylwch y bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei defnyddio yn WRAP a’i asiantau/contractwyr yn unig, ac ni fydd yn cael ei gyflenwi i unrhyw drydydd parti arall.
Os ydych yn dymuno optio allan o dderbyn gwybodaeth farchnata gysylltiedig â WRAP drwy e-bost, anfonwch eich cais at y person sy'n gyfrifol am Diogelu Data a restrir yn adran 4 uchod.

6. Defnyddwyr dan 18 oed

Os ydych dan 18 oed, gofynnwch caniatâd eich rhiant/gwarcheidwad ymlaen llaw pryd bynnag y byddwch yn darparu gwybodaeth bersonol i’n gwefan. Nid yw defnyddwyr heb y caniatâd hwn yn cael ein darparu â gwybodaeth bersonol.