LFHW Afalau Pob Wedi'u Stwffio | Love Food Hate Waste Wales

Afalau Pob Wedi'u Stwffio

Gan
Morrisons
30 - 45 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
4

Mae’r rysáit hon am afalau wedi’u stwffio yn syml i’w rhoi at ei gilydd, ac mae’n gwneud byrbryd ysgafn blasus gyda salad cymysg.

Cynhwysion
4 afal
1/2 lemon (sudd yn unig)
2 lwy fwrdd o olew olewydd pur
100g caws geifr, gan adael y grofen arno
2 lwy fwrdd o winwns coch, wedi’u plicio a’u torri’n fân
75g briwsion bara bras ffres
1 llwy de o gnau cyll, wedi’u torri’n fras
cyfarwyddiadau
Twymwch y ffwrn i 180°C/160°C ffan/nwy 4. Torrwch y pen oddi ar 4 afal a defnyddiwch lwy i sgwpio’r craidd allan, gan adael yr afal yn gyfan.
Tynnwch dafell denau oddi ar waelod pob afal fel eu bod yn sefyll yn gadarn. Rhwbiwch yr holl ddarnau afal wedi’u torri gyda sudd hanner lemon. Priciwch yr afalau ambell waith gyda fforc ac wedyn rhwbiwch 1 llwy fwrdd o olew olewydd pur arnynt.
Mewn powlen, cymysgwch y caws gafr a’i grofen gyda’r winwns coch a’i sesno. Stwffiwch y cymysgedd i mewn i bob afal a’u rhoi i sefyll mewn tun pobi.
Rhowch y briwsion bara bras mewn powlen gyda 1 llwy fwrdd o olew olewydd pur a’r cnau cyll. Sesnwch, cymysgwch, ac wedyn ei osod ar ben bob afal gan ei bwyso i’w le.
Rhowch y pennau yn ôl ar yr afalau a’u rhostio am 25 munud nes maen nhw’n euraidd. Ar ôl 15 munud, tynnwch y caeadau i roi cyfle i’r briwsion bara frownio. Gweinwch gyda salad cymysg.