Cynhwysion
Dogn/au o risoto dros ben.
2 dafell bob pen i fara gwyn (mae hen fara yn gweithio’n well).
2 sbrigyn o rosmari.
1 wy.
Hanner cwpan o flawd plaen.
Halen môr mân a phupur mâl ffres.
1 litr o olew had rêp.
cyfarwyddiadau
Chwalwch y tafelli o bob pen i dorth o fara gwyn gyda’r dail oddi ar ddau sbrigyn o rosmari nes eu bod yn friwsion mân. Mae’n gwneud llwythi. (Gellir cadw coesynnau’r rhosmari i ychwanegu blas at gawliau neu sawsiau).
Rhowch y briwsion bara perlysiau mewn powlen fawr. Mewn gwirionedd, nid oes angen llawer ohono, felly cadwch beth mewn cynhwysydd aerdyn ar gyfer diwrnod arall neu i wneud pangritata.
Cymerwch ychydig o’r risoto oer a’i ffurfio’n ddarnau maint peli bychain. Gwnewch hyn nes byddwch wedi defnyddio’r risoto i gyd.
Rhowch y blawd mewn powlen ar wahân a’i sesno â halen a phupur. Cymysgwch.
Torrwch yr wy a’i roi mewn powlen arall a’i guro
Cymerwch y peli risoto fesul un a’u dipio yn y blawd wedi’i sesno, gan ysgwyd y blawd dros ben i ffwrdd.
Yna dipiwch y bêl risoto flodiog yn yr wyau i’w gorchuddio.
Yn olaf, rhowch hon yn y bowlen gyda’r briwsion perlysiau a’u gorchuddio’n dda.
Rhowch yr olew mewn padell ddofn, cynheswch i 180c (neu gallech ddefnyddio ffrïwr saim dwfn) a ffriwch bob pêl risoto yn y briwsion bara perlysiau nes maen nhw’n euraidd.
Yn ofalus, tynnwch y peli o’r olew poeth a’u rhoi mewn tun ar bapur cegin i ddraenio’r olew dros ben.
Gwnewch hyn gyda gweddill y peli risoto – bwytewch nhw tra maen nhw’n gynnes neis.