Cynhwysion
125g (4oz) o fenyn
120g (4oz) o siwgr mân
3 ŵy
3 banana fawr aeddfed iawn, gyda’u crwyn wedi’u tynnu ac wedi’u stwnshio
225g (7 1/2oz) o flawd heb glwten Doves Farm
1/2 llwy de o bowdr codi heb glwten
1/4 llwy de o gwm xanthan
2 lwy de o sinamon mâl
1 llwy de o sbeisiau cymysg
100g (3 1/2oz) o syltanas neu apricotau sych, wedi’u torri’n ddarnau bach
1 llwy de o rinflas fanila
1/2 llwy de o halen
cyfarwyddiadau
Gwresogwch y ffwrn o flaen llaw i farc nwy 4, 180°C, ffwrn wyntyll 160°C.
Irwch a leiniwch tun torth 1kg (2lb).
Gan ddefnyddio peiriant cymysgu neu chwisg trydan, curwch y menyn a’r siwgr hyd nes eu bod yn troi’n olau ac ysgafn.
Curwch yr wyau i mewn un ar y tro a’u cyfuno’n dda. Yna, ychwanegwch weddill y cynhwysion. Plygwch bopeth ynghyd hyd nes ei fod wedi’i gymysgu’n dda.
Arllwyswch y cymysgedd i mewn i’r tun torth wedi’i baratoi a phobwch ef yn y ffwrn a wresogwyd o flaen llaw am 50-60 munud, hyd nes ei fod yn eurfrown. Dylai sgiwer a roddwch i mewn i’r canol ddod allan yn lân. Os yw’r wyneb yn tywyllu’n rhy gyflym, gorchuddiwch ef â ffoil.
Pan fydd yn barod, tynnwch ef o’r ffwrn a’i adael i oeri yn ei dun am 10 munud, yna trowch ef allan ar resel wifrog.
Torrwch ef yn sleisiau trwchus a’u gweini gyda menyn.
Awgrym coginio heb glwten: Mae gwm xantham yn ddefnyddiol ar gyfer pobi heb glwten, gan ei wneud yn llai briwsionllyd, ac mae’n gwneud toes heb glwten yn haws ei rolio a’i drin. Mae ar gael mewn siopau bwyd iechyd arbenigol ac mewn rhai archfarchnadoedd.