Bara Pitta Cig Oen Griliedig gyda Salsa Ciwcymbr

Gan
Hello Fresh
30 - 45 Munud
Canolradd
yn gwasanaethu
4

Mae’r rysáit bara pitta hon yn gyfuniad o flasau ffres, perlysiog, a salsa ciwcymbr blasus - perffaith!

Daw’r rysáit oddi wrth Hello Fresh - maen nhw’n darparu ffordd wych i ailddarganfod yr hwyl o goginio. Defnyddiwch eu gwasanaeth ar-lein i gael dosbarthiadau wythnosol o’r holl gynhwysion ffres sydd eu hangen arnoch i baratoi ryseitiau blasus. Gyda Hello Fresh, gall pawb fwynhau coginio. Mae’r cogydd proffesiynol, Patrick, wedi datblygu’r rysáit hon, a dylai gymryd llai na 30 munud i’w goginio.

Cynhwysion
250g o friwgig cig oen
10g o bersli
10g o fintys
15g o winwnsyn coch
250g o giwcymbr
2 llwy fwrdd o iogwrt naturiol
2 bara pitta cyflawn
Hanner llwy de o sinamon mâl
150g o domatos ceirios
1 letysen little gem
cyfarwyddiadau
Torrwch y tomatos ceirios yn eu hanner a thorri’r letysen little gem yn fras. Torrwch y winwnsyn coch yn ei hanner trwy’r gwreiddyn ac yna ei dorri’n dafellau siâp cilgant, tenau iawn. Sleisiwch pob bara pitta yn eu hanner, yna torrwch y persli a’r mintys yn fân.
Pliciwch y ciwcymbr, yna defnyddiwch y pliciwr i blicio rhubanau hir a thenau o giwcymbr. Pan fyddwch yn cyrraedd y rhan meddal yn y canol, trowch y ciwcymbr ychydig, a pharhewch i blicio. Cymysgwch y rhubanau ciwcymbr gyda 2 lwy fwrdd o iogwrt, llwy de o winwnsyn coch wedi’i sleisio, phinsiad o halen a phupur.
Cynheswch eich gridyll ymlaen llaw i wres uchel.
I wneud patis cig oen; cymysgwch y briwgig cig oen, y sinamon, chwarter llwy de o halen, a thri chwarter o’r persli a’r mintys gyda’i gilydd. Cymysgwch y gymysgedd yn drwyadl gyda’ch dwylo am ychydig funudau.
Rhannwch y gymysgedd yn 4 dogn a gwasgwch bob un i siâp byrger (ceisiwch beidio â’u cywasgu nhw ormod). Rhwbiwch haen ysgafn o olew olewydd ar bob byrger cyn eu rhoi nhw ar hambwrdd pobi. Rhowch nhw o dan y gridyll ar y silff agosaf ato, am 3 munud bob ochr.
Mewn powlen, cymysgwch y letysen little gem, ychydig bach o winwnsyn coch, y tomatos ceirios, a’r persli a’r mintys sy’n weddill, gyda’i gilydd. Rhowch ychydig o halen a phupur ar eich salad cyn rhoi llwy de o olew olewydd drosto.
Rhowch y bara pitta ar hambwrdd pobi o dan y gridyll am oddeutu munud pob ochr i’w tostio nhw ychydig bach (fel arall, rhowch nhw yn y tostiwr, ond cadwch lygad arnyn nhw oherwydd eu cynhesu nhw’n unig sydd angen i chi ei wneud).
Gweinwch y cig oen yn y bara pitta, gyda llond llwy iach o’r relish ciwcymbr, a’r salad ar yr ochr.