Cynhwysion
1 llond llwy fwrdd o olew
1 nionyn, wedi ei dorri
1 llond llwy fwrdd o bowdwr cyri
350g (12 owns) o lysiau cymysg wedi eu rhewi, wedi eu dadrewi, neu eu tynnu o’r oergell a’u torri â chyllell
250g (9 owns) o reis basmati
500ml (1 peint) o stoc llysiau poeth
cyfarwyddiadau
Twymwch y popty ymlaen llaw i 200 gradd C, nwy marc 6
Twymwch yr olew mewn padell ffrïo fawr a ffrïo’r nionyn am 3 neu 4 munud, troi’r powdwr cyri i mewn iddo, wedyn y llysiau, y reis a’r stoc. Ei drosglwyddo i lestr caserol
Ei orchuddio a’i bobi am 25 munud nes mae’r holl hylif wedi cael ei amsugno ac nes mae’r reis yn dyner. Defnyddio fforc i’w lacio a’i chwyddo, ychwanegu sesnin yn ôl eich chwaeth ac mae’n barod i’w weini