Biryani Cig Oen Dros Ben

Gan
Tesco Real Food
20 - 30 Munud
Canolradd
yn gwasanaethu
4

Mae’n llawn ansoddau a blasau cyferbyniol, ac mae’n un o’r ryseitiau hynny y bydd y teulu cyfan yn dwlu arni - mae’n gweithio’n dda gyda chyw iâr wedi’i goginio hefyd.

Cynhwysion
500g (1lb) o reis basmati i’w goginio mewn microdon
40g (1 1/2oz) o almonau fflawiog
15ml (1 llwy fwrdd) o olew olewydd
1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fras
1 clof garlleg, mâl
2cm o sinsir ffres, wedi’i gratio
1 llwy de o sinamon
¼ llwy de o glof mâl
2 lwy fwrdd o bast Balti
300g (10oz) o gig oen dros ben, wedi’i ddeisio
400ml (1/2 peint) o stoc llysiau
200g (7oz) o petit pois wedi’u rhewi
3 llwy fwyd o goriander ffres wedi’i dorri
cyfarwyddiadau
Coginiwch y reis basmati yn y ficrodon yn ôl y cyfarwyddiadau ar y pecyn.
Tostiwch yr almonau mewn sosban gwaelod trwm, bach, dros wres canolig, hyd neu eu bod nhw’n euraid, a’u symud nhw o gwmpas y sosban yn aml fel eu bod nhw’n brownio’n gyfartal. Rhowch nhw naill ochr.
Cynheswch yr olew mewn sosban fawr a choginiwch y winwnsyn dros wres canolig i uchel am 5 munud hyd nes ei fod wedi troi lliw.
Ychwanegwch y garlleg, y sinsir, y sinamon, y clofau a’r past balti, eu cymysgu a’u coginio am 1 munud cyn ychwanegu’r cig oen a’i gymysgu i’w orchuddio.
Ychwanegwch y reis, y stoc a’r pys, a choginio’r cwbl dros wres canolig i uchel hyd nes bod y reis yn boeth a bod y stoc wedi cael ei amsugno. Ychwanegwch y coriander ac ysgeintiwch yr almonau fflawiog drosto i’w weini.