LFHW Blodfresych Caws Syml | Love Food Hate Waste Wales

Blodfresych Caws Syml

Gan
Kathleen Vaughn, Changeworks
20 - 30 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
4

Os hoffech syniad arall i ddefnyddio hufen dros ben, mae hwn yn rysáit cyflym a syml. Os nad oes gennych chi ddigon o hufen, gallwch ychwanegu crème fraiche neu laeth llawn.

Rhewi
Yes
Llysieuol
Cynhwysion
1 blodfresychen
1 talp mawr o fenyn
150ml o hufen
100g o gaws caled wedi’i gratio
75g o friwsion bara
Halen a phupur
cyfarwyddiadau
Torrwch y blodfresych yn flodigion bach. Rhowch y rhain mewn padell a’u gorchuddio â dwr ychydig yn hallt. Dechreuwch eu berwi a’u mudferwi am oddeutu 5 munud neu hyd nes eu bod nhw’n al dente. Draeniwch nhw’n dda, wedyn ychwanegu’r menyn, hufen a digon o halen a phupur atynt.
Cynheswch y gril i dymheredd canolig. Rhowch y blodigion blodfresych mewn dysgl dal gwres bas llw maent yn ffitio mewn un haen.
Cyfunwch y caws a’r briwsion bara, a’u gwasgaru’n hael dros y cyfan.
Rhowch ef o dan y gril hyd nes ei fod yn frown euraid ac wedi tostio.
Gweinwch ar unwaith fel cyfwyd.