LFHW Blodfresych wedi rhostio gyda dresin tahini | Love Food Hate Waste Wales

Blodfresych wedi rhostio gyda dresin tahini

Gan
Tesco
20 - 30 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
4

Rhoddir y rysait yma i ni gan cogydd Tesco, Martyn Lee. Rysait hynod o syml a blasus sy’n defnyddio’r blodfresych cyfan. Gellir torri’n talpiau a’i wasanaethu fel saig ychwanegol. Syml, blasus a di-gwastraff! Yn gwneud: digon i 4 fel saig ychwanegol

Cynhwysion
1 blodfresych fawr, wedi’i thrimio a’i thorri’n dalpiau
40g menyn
20g olêw had rep
10g sesnin ras el hanout
80g tahini
25g sudd lemwn
5g garlleg
2g halen
100g iogwrt naturiol
dyrnaid bach o ddail coriander, wedi’u torri
3 llwy fwrdd o hadau pomgranad
cyfarwyddiadau
Cynheswch y popty i nwy 7, 230C (Ffan 210C), 450F.
Cymysgwch y blodfresych gyda’r menyn, olew a sesnin mewn bowlen fawr. Peidiwch â phoeni os bydd yn torri’n ddarnau.
Rhostiwch ar dun pobi am 15-18 munud nes yn euraidd ac wedi crasu ychydig yn drwm.
Yn y cyfamser, cymysgwch y tahini, lemwn, garlleg, halen ac iogwrt gyda’i gilydd i wneud dresin. Llaciwch gydag ychydig o ddwr os oes angen.
Trefnwch y blodfresych ar blat i rannu ac arllwys y dresin drosti, yna ysgeintiwch y coriander a hadau pomegranad drostynt.