Byrgyrs moron sbeislyd

Gan
LFHW
20 - 30 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
8

Mae’r byrgyrs blasus, rhad hyn yn ffordd dda o ddefnyddio briwsion bara ac maen nhw’n gweithio yr un mor dda gyda rhai llysiau wedi’u coginio neu salad, neu mewn bynsen fyrgyr gyda’r holl drimins.

Cynhwysion
4 moronen o faint canolig (250g/9oz), wedi’u plicio a’u gratio
2 dun o ffa x 400g/14oz (2 x 240g/9oz – pwysau wedi’u diferu)
1 winwnsyn mawr (150g/5 ½ oz), wedi’i blicio a’i gratio
2 ŵy
1 llwy de o bowdr cyrri, garam masala neu bowdr tsili
150g/5 ½ oz o friwsion bara ffres
2 lwy fwrdd o olew llysiau
cyfarwyddiadau
Ffriwch y winwns a’r moron mewn ychydig o olew hyd nes eu bod yn feddal.
Diferwch, rinsiwch a stwnsiwch y ffa. Rhowch nhw mewn powlen gymysgu a’u cymysgu ynghyd â’r moron, y winwns, y sbeisiau ac un o’r wyau.
Rhowch y briwsion bara ar blât. Torrwch yr ŵy sydd ar ôl mewn powlen a’i chwisgo’n dda.
Ffurfiwch y cymysgedd byrgyrs yn wyth pati. Trochwch bob un yn yr ŵy ac yna eu gorchuddio â briwsion bara. Ffriwch nhw’n ysgafn yn yr olew sy’n weddill hyd nes eu bod yn grimp ac euraid ar y ddwy ochr.