
CACENNAU CREISION ŶD SIOCLED
Mae cacennau creision ŷd siocled yn un o’r ffefrynnau amser te, ac maent yn hawdd a chyflym i’w paratoi, ac nid oes angen eu pobi. Bydd plant o bob oed yn mwynhau gwneud y rhain. Awgrym: Amser Pasg, bydd plant yn dwlu ar y cacennau bach hyn ag wyau siocled ar eu pennau!