Twymo’r popty ymalen llaw i 180 gradd
Tynnu’r cig oen oddi ar yr asgwrn a’i dorri’n fras yn ddarnau ½ modfedd
Twymo’r olew mewn sosban fawr. Ychwanegu’r nionod, y garlleg a’r seleri. Eu ffrïo am tua 5 munud nes eu bod yn feddal
Ychwanegu’r cig oen a choginio am 5 munud arall
Ychwanegu’r tomatos, y ffa y teim a’r grefi, dod â nhw i ferwi a’u mudferwi am bum munud ar hugain i hanner awr nes i’r saws dewychu
Rhowch y tatws a’r moron mewn powlen a’u gwasgu’n llac gyda stwnsiwr tatws. Os ydych yn hapus i faeddu’ch dwylo, efallai y byddai’n well gennych eu malu gyda’ch dwylo a chymysgu’r ymenyn i mewn
Rhowch y cymysgedd cig oen mewn 4 pot unigol neu 1 pot mawr sy’n addas ar gyfer y popty. Rhowch y cymysgedd tatws a moron ar ei ben a’i roi yn y popty nes bod y top yn frown golau
Awgrymiadau'r cogydd: I wneud y top yn fwy crystiog, gwasgwch fforc ar y cymysgedd tatws cyn ei roi yn y popty.
Gallwch ddefnyddio: Gallwch ddefnyddio popeth sydd dros ben ar ôl eich cinio dydd Sul – mae’r cig, y grefi a’r llysiau dros ben yn fendigaedig yn y pryd hwn.
Amrywiadau: Mae’r pryd hwn yn hawdd iawn i’w addasu a gellir eu wneud gyda beth bynnag sydd ar ôl wedi eich cinio dydd Sul. Bydd gwahanol gigoedd a grefi yn rhoi blas gwahanol i’r pryd, a llysiau fel pannas, brocoli a blodfresych yn ychwanegu eu blas a’u liw eu hunain.
I ychwanegu blas: I roi blas arbennig o gyfoethog gallwch dywallt mymryn o win coch i’r pair.
Cyngor ar rewi: Gofalwch bod y pryd wedi cael ei labelu’n gywir cyn ei roi yn y rhewgell.
Dewisiadau llysieuol a figan: I wneud y pryd hwn yn addas i lysieuwyr a figans bydd angen defnyddio cynhwysion llysieuol yn lle’r cig a grefi. Fel estyniad i hynny bydd defnyddio marjarîn figan yn lle’r ymenyn yn ei wneud yn swper perffaith i figan – yn swpyr-perffaith hyd yn oed!).
Cyngor ar alergedd: Mae’r pryd yma yn hawdd i’w addasu ac mae’n addas i’r rhan fwyaf o ddietau.