LFHW Cawl croen tatws | Love Food Hate Waste Wales

Cawl croen tatws

Gan
Hugh Fearnley-Whittingstall
20 - 30 Munud
Canolradd
yn gwasanaethu
4

Nid yw ryseitiau newydd bob amser yn golygu bod rhaid dechrau o’r dechrau gyda chynhwysion newydd sbon, mae’r cawl blasus hwn yn esiampl wych o hynny, rhowch gynnig arno.

Rhewi
Yes
Llysieuol
Cynhwysion
20g o fenyn, neu olew had rêp neu olew blodau’r haul
1 winwnsyn mawr neu 2 ganolig, wedi’u torri’n fân
1 ddeilen llawryf
Tua 200g o grwyn tatws (tua’r un faint ag y byddech chi’n ei gael o baratoi llond llestr popty go lew o datws rhost)
500ml llo laeth cyflawn
500ml o stoc cyw iâr neu lysiau
2 lwy fwrdd o ddail persli wedi’u torri’n fân (dewisol)
Halen a phupur du mân
Dail saets wedi’u ffrio
Bacwn wedi’i grilio’n grimp (dewisol)
cyfarwyddiadau
Cynheswch y menyn neu’r olew mewn sosban ganolig dros wres canolig–isel, ac ychwanegwch y winwns, y ddeilen llawryf a phinsiad hael o halen. Ffriwch ar wres isel nes bydd y winwns yn feddal ond heb ormod o liw iddynt, tua 10 munud.
Ychwanegwch y crwyn tatws a chymysgu’r cwbl yn dda am funud.
Arllwyswch y llaeth a’r stoc i mewn a’i sesno’n hael gyda halen a phupur, a’i ferwi. Gostyngwch y gwres a’i ffrwtian ar wres isel nes bydd y crwyn yn dendr iawn – tua 10 munud arall.
Tynnwch oddi ar y gwres a’i adael i oeri ychydig, cyn ei stwnshio mewn prosesydd bwyd neu gyda ffon stwnshio drydan nes ei fod yn hollol lyfn.
Dychwelwch y cawl i’r sosban a’i aildwymo. Gallwch ei sesno’n hael gyda halen a phupur a throi’r persli mân i mewn, os ydych chi’n ei ddefnyddio.
Gweinwch mewn powlenni cynnes, gyda dail saets wedi’u ffrio a darnau o’r bacwn crimp ar ei ben, os dymunwch. Gwasgarwch bupur mân drosto i’w orffen.