LFHW Cawl Gwyrdd Minestrone | Love Food Hate Waste Wales

Cawl Gwyrdd Minestrone

Gan
Scott Archer, Inspire Catering
20 - 30 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
4

Mae’n ffordd wych o ddefnyddio pasta dros ben. Yn ogystal â phys, gallwch ychwanegu pa bynnag lysiau wedi’u rhewi sydd gennych e.e. ffa Ffrengig.

Fegan
Llysieuol
Cynhwysion
100g o basta wedi’i goginio dros ben
100g o bys wedi’u rhewi
50g o ffa Ffrengig, wedi’u torri
50g o asbaragws, wedi’u torri
1 courgette, wedi’i dorri
2 ffon seleri, wedi’u torri
6 deilen basil
1 winwnsyn mawr, wedi’i dorri
2 glof garlleg, wedi’u torri
1 llwy fwrdd o olew olewydd
2 giwb stoc cyw iâr neu lysiau
cyfarwyddiadau
Ffriwch y winwns a’r garlleg yn yr olew olewydd.
Ychwanegwch 1 litr o ddŵr, y ciwbiau stoc, y llysiau sydd ar ôl, a dechrau eu berwi.
Rhowch y pasta yn y badell a’i fudferwi am oddeutu 20 munud.
Rhwygwch y dail basil a’u hychwanegu at y cawl ar gyfer y 5 munud olaf o goginio.
Gweinwch y cawl gydag ysgeintiad o gaws parmesan.