Cawl Oer: Gwrd Cnau Menyn a Peppadew® Sweet Piquanté Pepper
30 - 45 Munud
Canolradd
yn gwasanaethu
6
Cynhwysion
50ml o fenyn neu farjarîn
2 winwnsyn canolig neu shibwns, wedi’u torri’n fras
500g o gwrd cnau menyn, pwmpen neu datws melys, wedi’i blicio a’i dorri
125ml o Peppadew® Sweet Piquanté Pepper, wedi’i ddraenio
50ml o flawd plaen neu flawd codi
5ml o bowdr neu bast cyri cymedrol
Pinsiaid o nytmeg wedi’i gratio
250ml o ddŵr
5ml o stoc cyw iâr (neu stoc llysiau neu bysgod)
500ml o laeth
250ml o ddŵr ychwanegol
Pinsiaid o halen
Pupur du mâl ffres, at eich blas
30ml o gennin syfi wedi’u torri
125ml o hufen ffres, crème fraîche, hufen sur neu iogwrt plaen
cyfarwyddiadau
Twymwch y menyn mewn sosban drom, ychwanegwch y winwns a’u ffrio nes byddant yn dryloyw. Ychwanegwch y gwrd cnau menyn a’r pupur, a’i ffrio am 5 munud arall, gan ei droi o bryd i’w gilydd.
Ychwanegwch y blawd, y powdr cyri a’r nytmeg a’i gymysgu’n dda. Ychwanegwch y 250ml o ddŵr a’r powdr stoc, a’i ferwi gan ei droi’n ysgafn. Gostyngwch y gwres a’i ffrwtian am 15–20 munud neu nes bydd y gwrd cnau menyn yn dendr.
Oerwch y cawl a’i arllwys mewn i brosesydd bwyd. Cymysgwch nes bydd y cwbl yn llyfn cyn ei roi’n ôl yn y sosban. Ychwanegwch y llaeth, y dŵr ychwanegol, yr halen a’r pupur du.
Berwch, gan ei droi o bryd i’w gilydd, wedyn gostyngwch y gwres a’i ffrwtian am 5 munud arall. Tynnwch oddi ar y gwres a’i oeri yn yr oergell.
Gweinwch yn oer gydag ysgeintiad o gennin syfi a thalp o hufen.