Cawl Pêr-datws wedi eu rhostio gyda Paprika

Gan
SCHWARTZ
20 - 30 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
4

Mae pêr-datws a phaprika yn rhoi blas rhagorol i’r cawl hwn. Gadewch y bacwn allan i wneud y fersiwn llysieuol.

Cynhwysion
3 pêr-daten ganolig, wedi eu plicio a’u torri’n ddarnau breision
3 llond llwy fwrdd o olew olewydd
1 pecyn o facwn, wedi ei dorri (dewisol)
2 llond llwy de o bâst coginio Schwartz
2 llond llwy de o Baprika Schwartz
1 nionyn, wedi ei dorri’n fân
1.1 litr (2 beint) o stoc
1 llond llwy fwrdd o sudd lemwn
Halen Môr a Phupur Du Schwartz i roi blas
cyfarwyddiadau
Twymwch y popty ymlaen llaw i 200°C, 400°F, Nwy Marc 6
Taflwch y pêr-datws gyda 2 llond llwy fwrdd o olew olewydd. Ychwanegwch y pupur a halen a’u rhostio yn y popty am 15 munud neu nes y maent yn frown-golau ac yn feddal
Yn y cyfamser, twymwch weddill yr olew mewn sosban fawr. Ychwanegwch y bacwn os ydych am ei ddefnyddio, a’i goginio am 5 munud, gan ei droi nes y mae’n frown a chrenslyd
Ychwanegwch y Garlleg a’r Paprika a’u cogionio am 30 eiliad. Trowch y nionod i mewn i’r cymysgiad a’i gogionio’n dyner am 10 munud, nes y mae’r nionyn wedi meddalu ond heb frownio
Tywalltwch y stoc i mewn a dod ag o i ferwi. Yna trowch y gwres i lawr a gadael iddo fud-ferwi. Ychwanegwch y pêr-datws wedi eu rhostio a gadael iddynt goginio am 5 munud
Tynnwch hanner y cymysgedd nionyn a thatws allan gyda llwy ridyllog. Yna blendiwch weddill y cawl, nes y mae’n llyfn. Rhowch y cyfan o’r cymysgedd tatws a nionod yn ôl yn y sosban, ychwanegu gwasgiad o sudd lemwn a phupur a halen i roi blas